Newyddion S4C

Owen Roberts

Plaid Cymru yn penodi Dr Owen Roberts fel prif weithredwr newydd

NS4C 15/03/2023

Mae Plaid Cymru wedi penodi Owen Roberts fel prif weithredwr newydd y blaid. 

Mae Dr Roberts yn olynu Carl Harris, ar ôl iddo gamu o'r swydd ym mis Rhagfyr y llynedd. 

Fe adawodd Mr Harris yn ystod cyfnod heriol i Blaid Cymru yn sgil honiadau o ddiwylliant tocsig a phryderon dros ddiffyg arweinyddiaeth o fewn y blaid. 

Mae Owen Roberts dechrau'r swydd gyda'r blaid wedi iddo dreulio bron i saith mlynedd yn gweithio i Hybu Cig Cymru fel arbenigwr cyfathrebu a materion allanol. 

Mae disgwyl i Mr Roberts gychwyn ar ei rôl newydd o fewn yr wythnosau nesaf. 

Yn dilyn ei benodiad, dywedodd fod ei swydd newydd yn "destun cyffro a balchder".

"Fy amcan fydd nid yn unig i dyfu aelodaeth y blaid ond hefyd i ysgogi ac ysbrydoli aelodau presennol i guro drysau a chynnal sgyrsiau gan ddod yn actifyddion pybyr yn ein cymunedau.

"Gwn fod llawer i’w wneud ond gwn hefyd fod Cymru ar ei hennill pan fod Plaid Cymru yn rhoi llais cryf a gofalgar i’n cymunedau sy’n haeddu dim llai.”

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ei fod yn "bleser o'r mwyaf" i groesawu Mr Roberts fel prif weithredwr. 

"Daw gydag ef ystod o sgiliau a phrofiadau fydd yn amhrisiadwy ar yr adeg bwysig hon yn hanes Plaid Cymru wrth i ni weithredu ein strategaeth wleidyddol newydd: ehangu cefnogaeth y blaid ym mhob rhan o Gymru, dod yn blaid lywodraethol, a sicrhau annibyniaeth i'n cenedl.

“Edrychaf ymlaen at weithio gydag Owen wrth i ni fwrw ymlaen â’r gwaith hollbwysig hwn i sicrhau’r newid sydd ei angen a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ledled Cymru.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.