Mark Drakeford yn ymweld â Ffrainc i gwrdd â chwmnïau sy’n buddsoddi yng Nghymru

Bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn ymweld â phrifddinas Ffrainc ddydd Iau i gwrdd â chwmnïau ynni a chwmnïau diwydiannol sy’n buddsoddi yng Nghymru.
Yn ystod ei dridiau yno, fe fydd yn cynnal digwyddiad i nodi dechrau achlysur Cymru yn Ffrainc, sef dathliad blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau diwylliannol, busnes a chwaraeon.
Y nod yw cryfhau’r cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli rhwng y ddwy wlad, a chreu rhai newydd, medd Llywodraeth Cymru.
“Rwy’n hynod falch o lansio ein blwyddyn Cymru yn Ffrainc, yng nghanol Paris," dywedodd Mark Drakeford.
“Mae’r cysylltiadau cryf rhwng y ddwy wlad wedi’u gwreiddio yn yr hanes a’r diwylliant rydyn ni’n eu rhannu.
“Mae Ffrainc ymhlith y gwledydd sydd agosaf i ni yn Ewrop, ac mae’r cyfleoedd sy’n cael eu datblygu rhwng busnesau yng Nghymru a Ffrainc yn drawiadol ac uchelgeisiol."
Rygbi
Bydd y prif weinidog yn ymweld ag Archif Genedlaethol Ffrainc i weld Llythyr Pennal, a gafodd ei anfon gan Owain Glyndŵr at Frenin Siarl VI yn 1406, yn gofyn iddo gefnogi ei wrthryfel yn erbyn rheolaeth Lloegr.
Wedi’i gyfansoddi yn ystod un o synodau Eglwys Cymru ym Mhennal, mae’r llythyr yn cynnig cipolwg ar weledigaeth Owain ar gyfer dyfodol Cymru.
Yn ogystal, fe fydd y prif weinidog yn arwain dirprwyaeth o sefydliadau Cymreig i gwrdd â swyddogion UNESCO yn eu pencadlys ym Mharis, a bydd yn cwrdd â chynrychiolwyr i ddathlu’r berthynas rhwng Cymru â Llydaw.
Mae hefyd wedi derbyn gwahoddiad gan Ffederasiwn Rygbi Ffrainc i wylio gêm olaf Cymru yng ngornest y Chwe Gwlad yn y Stade de France.