![Robin Goch](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2023-03/robin%20goch.jpg?itok=eLjKUC93)
Blog byw: Beth fydd effaith y Gyllideb arnoch chi?
Prif bwyntiau:
- Bydd £180m ychwanegol i Gymru yn sgil gwariant pellach yn Lloegr.
- Bydd £20m ychwanegol i drwsio morglawdd Caergybi.
- Addo 'parth buddsoddi' newydd i Gymru a fydd yn cael £80m
- Bydd y cymorth presennol ar gostau ynni yn parhau tan fis Mehefin.
- Bydd y doll ar danwydd yn cael ei rewi am y flwyddyn nesaf.
- Fydd yna ddim dirwasgiad eleni a bydd chwyddiant yn syrthio i 2.9% meddai'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (yr OBR).
13.34pm
Mae Jeremy Hunt wedi dod a'i araith i ben. Mae amlinelliad uchod a bydd yna ddigon yno i gnoi cil arno. Bydd datganiad Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach yn amlinellu eu hymateb nhw. Rhai o'r prif gwestiynau sy'n codi:
- Mae'r Canghellor wedi addo £180m ychwanegol i Gymru yn sgil gwariant pellach yn Lloegr, ond mae Llywodraeth Cymru wedi herio ffigyrau y Trysorlys yn y gorffennol. A fydd yr un peth yn digwydd eto?
- Mae'r Canghellor wedi cyhoeddi cymorth ychwanegol gyda chostau gofal plant dan dair oed yn Lloegr - a fydd cynnig tebyg yng Nghymru hefyd?
- Y 'parth buddsoddi' newydd yng Nghymru a fydd yn cael £80m - a oedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i hyn ac yn ymwybodol ohono?
- Y 'gwarant tafarndai Brexit' a fydd yn cadw y doll ar y ddiod gadarn mewn tafarndai 11c yn is na'r doll mewn archfarchnadoedd o fis Awst. Pa effaith fydd hyn yn ei gael yng Nghymru o ytyried fod Llywodraeth Cymru wedi gosod pris sylfaen ar werthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru?
13.26pm
Mae'r Canghellor wedi cyhoeddi cymorth ychwanegol gyda chostau gofal plant yn Lloegr - mae'n bwnc sydd wedi ei ddatganoli i Gymru a bydd rhaid disgwyl i weld beth fydd Llywodraeth Cymru eisiau ei wneud â'r arian ychwanegol.
13.23pm
Dywedodd y Canghellor ei fod am annog pobl dros 50 yn ôl i'r gwaith - ar ôl gosod esiampl drwy ddychwelyd o'r meinciau cefn 'er mwyn dechrau gyrfa newydd yn y byd ariannol'.
'Sut mae'n mynd?' oedd bloedd un o'r ASau gyferbyn.
13.16pm
Bydd ynni niwclear i gael ei ailddosbarthu fel ynni ‘amgylcheddol gynaliadwy’ meddai'r Canghellor, wrth grybwyll Ynys Môn unwaith eto.
Fe fydd hynny yn rhoi mynediad i ynni niwclear i'r un cymhellion i fuddsoddi ag ynni cynaliadwy.
Mae Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru yn hoff o'r syniad:
Great British Nuclear! 💪🇬🇧
— Andrew RT Davies (@AndrewRTDavies) March 15, 2023
13.08pm
Ymunodd Robin Goch gyda'r wasg i wylio'r Canghellor yn camu allan o rif 11 Stryd Downing yn gynharach heddiw.
![Robin Goch](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2023-03/robin%20goch.jpg?itok=eLjKUC93)
12.55pm
Bydd £20m i Gymru i drwsio morglawdd Caergybi a £180m arall yn sgil gwariant pellach yn Lloegr, meddai'r Canghellor.
Mae'n werth nodi fod Llywodraeth Cymru weithiau wedi anghytuno gyda Llywodraeth y DU am faint o arian newydd mae'n nhw'n ei gael.
Bydd 12 'parth buddsoddi' newydd yn cael eu creu ar draws y Deyrnas Unedig a fydd yn cael £80m yr un. Bydd un yng Nghymru medden nhw, ac yn cael ei greu mewn ardal lle mae yna brifysgol.
Fe fydd yn ddiddorol yn sgil y trafodaethau hirfaith ynglyn a'r Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru a ydi Llywodraeth Cymru wedi eu cynnwys yn y trafodaethau hyd yma.
12.46pm
Bydd y doll ar danwydd yn cael ei rewi am y flwyddyn nesaf.
Mae'r Canghellor hefyd wedi cyhoeddi "gwarant tafarndai Brexit" a fydd yn cadw y doll ar y ddiod gadarn mewn tafarndai 11c yn is na'r doll mewn archfarchnadoedd o fis Awst.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod pris sylfaen ar werthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru felly bydd rhaid aros i weld pa effaith y bydd hyn yn ei gael ar brisiau yma.
Bydd £63m ar gyfer canolfanau hamdden yn Lloegr, a ddylai arwain at arian ychwanegol ar gyfer Cymru yn yr un modd a'r addewid o ragor o gefnogaeth ar gyfer gofal plant yn Lloegr.
12.40pm
Dyma'r Canghellor ar ei draed yn Nhŷ'r Cyffredin.
![Jeremy Hunt](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2023-03/jeremy%20hunt%20canghellor.jpg?itok=DAtFgSLi)
12.33pm
Mae'r Canghellor Jeremy Hunt wedi agor ei araith gan ddweud fod economi'r Deyrnas Unedig "ar y llwybr cywir" a bydd yn "profi'r rheini sy'n ei amau yn anghywir".
Dywedodd nad yw'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (yr OBR) sydd yn asesu'r Gyllideb o safbwynt annibynnol bellach yn darogan dirwasgiad eleni.
Bydd chwyddiant yn syrthio i 2.9% erbyn diwedd y flwyddyn, meddai'r OBR.
Bydd adroddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cael ei gyhoeddi yn llawn am 14.30 GMT.
12.32pm
Dyma'r Prif Weinidog Rishi Sunak yn ateb cwestiynau gyda'i Ganghellor Jeremy Hunt wrth ei ochor.
![Rishi Sunak a Jeremy Hunt](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2023-03/rishi%20sunak%20jeremy%20hunt.jpg?itok=dT9uH1BL)
12.23pm
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud fod “gwell economi” yn golygu y bydd y Canghellor Jeremy Hunt yn gallu cynnig rhagor o ofal plant am ddim yn Lloegr a chymorth pellach â biliau ynni.
Bydd y gwarant ar gostau ynni cartrefi yn cael ei ymestyn am dri mis arall.
Bydd hynny’n cadw’r uchafswm ar filiau ynni i gartrefi cyffredin ar £2,500 y flwyddyn. Nid fydd yn codi i £3,000 ym mis Ebrill fel oedd y bwriad yn wreiddiol.
12.10pm
Yn Nhŷ’r Cyffredin mae arweinydd yr wrthblaid Syr Keir Starmer wedi penderfynu arwain ar Gary Lineker yn hytrach na materion economaidd.
Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak mai mater i Gary Lineker a'r BBC oedd hynny a’i fod yn falch ei fod wedi ei ddatrys ac yn edrych ymlaen at wylio Match of the Day.
Yn y cyfamser mae mynegai stoc y FTSE 100 wedi syrthio i'w lefel isaf eleni yn sgil pryderon am yr economi wedi i Silicon Valley Bank fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ddydd Gwener. Bu'n rhaid i'r Canghellor gamu i mewn ddechrau'r wythnos er mwyn gwerthu Silicon Valley Bank UK i HSBC.
12.05pm
Dyma'r Canghellor Jeremy Hunt ar ei ffordd i Senedd San Steffan er mwyn datgelu ei Gyllideb.
![Jeremy Hunt](https://ncms.s4c.org.uk/sites/default/files/styles/newyddion_large_square_1000x1000_/public/2023-03/y%20gyllideb%20jeremy%20hunt.jpg?itok=bVBpNPF4)
12.00pm
Mae’r Canghellor Jeremy Hunt eisoes wedi addo y bydd y gyllideb yn hybu twf yn yr economi ac annog pobol yn ôl i’r gwaith.
Er bod y Trysorlys eisoes wedi datgelu rhai rhannau o’r gyllideb, er enghraifft cymorth gyda chostau gofal plant yn Lloegr, mae disgwyl cyhoeddiadau pellach o fewn y gyllideb hefyd.
Dyma fydd yn digwydd dros yr oriau nesaf:
- Bydd cwestiynau'r Prif Weinidog am 12pm
- Bydd y Gyllideb yn dilyn yn syth wedyn, tua 12.30pm
- Bydd y Canghellor wedyn yn gadael ar gyfer cyfres o gyfweliadau teledu i’w darlledu brynhawn ma a heno
- Fe fydd yna ddatganiad gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol am 2.30pm yn cynnwys eu hasesiad nhw o’r gyllideb
11.47am
Croeso i’n blog byw wrth i Jeremy Hunt baratoi i ddatgelu ei gyllideb gyntaf fel Canghellor.
Mae rywfaint o’r cynnwys wedi ei ddatgelu o flaen llaw ond bydd ansicrwydd ynglŷn â sut fydd rhai o’r cyhoeddiadau yn effeithio ar Gymru.
Un o’r cyhoeddiadau hyd yma yw y bydd help ychwanegol gyda chostau gofal plant yn Lloegr ond mae’r mater wedi ei ddatganoli i Gymru.
Mae gwariant ychwanegol yn Lloegr fel arfer yn golygu y bydd arian ychwanegol ar ei ffordd i Gymru – ond does dim sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn dewis ei wario ar yr un pethau.
Bydd rhai o’r cyhoeddiadau eraill yn effeithio ar bawb, fel ar ynni a budd-daliadau, sydd heb eu datganoli i Gymru.
Mae hynny yn golygu y bydd pobol yng Nghymru hefyd yn cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad y bydd cymorth presennol ar gostau ynni yn parhau tan fis Mehefin.
Mae yna hefyd newid i’r ffordd y bydd pobol ar draws y DU yn derbyn budd-daliadau Credyd Cynhwysol.