Newyddion S4C

ffrwydrad Treforys

Enwi dyn fu farw mewn ffrwydrad nwy yn Nhreforys

NS4C 14/03/2023

Mae'r heddlu wedi enwi dyn fu farw yn dilyn ffrwydrad nwy yn Nhreforys ddydd Llun.

Roedd Brian Davies yn 68 oed.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu De Cymru fod ei gorff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol ddydd Mawrth a bod ei deulu’n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Carl Price: “Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu a ffrindiau Brian, ar adeg sy’n anodd iawn iddyn nhw, a’r rhai sydd wedi’u hanafu yn dilyn y ffrwydrad.

“Mae ein hymholiadau’n parhau i ganfod achos y digwyddiad, ac mae’r ymholiadau hyn yn cael eu cynnal mewn partneriaeth ag asiantaethau perthnasol gan gynnwys yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

“Mae amynedd a dealltwriaeth trigolion lleol ar Heol Clydach, a’r gymuned ehangach yn Nhreforys, yn cael ei werthfawrogi’n fawr tra bod y gwaith hwn yn parhau.”

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Clydach yn Nhreforys tua 11.20 fore Llun, ar ôl derbyn adroddiadau fod difrod sylweddol i adeiladau yng nghanol stryd o dai.

Cafodd tri o bobl hefyd eu cludo i'r ysbyty. Mae dau ohonynt, un oedolyn ac un plentyn, bellach wedi'u rhyddhau o'r ysbyty. Mae ail oedolyn yn parhau i dderbyn triniaeth ond mewn cyflwr sefydlog. 

Ffrwydrad nwy sy'n cael ei amau o achosi'r difrod.

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal er mwyn darganfod beth yn union achosodd y ffrwydrad, ac mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y digwyddiad. 

Lloches

Treuliodd degau o deuluoedd nos Lun  mewn lloches wrth i'r ymchwiliad i'r ffrwydrad nerthol barhau. 

Mae Wales and West Utilities wedi bod ar y safle yn ceisio sicrhau fod popeth yn ddiogel yno wedi'r ffrwydrad.

Cyhoeddodd y cwmni nos Fawrth bod yr archwiliadau hynny wedi eu cwblhau a bod nifer o'r teuloedd sydd wedi bod yn cael lloches dros dro bellach wedi dechrau dychwelyd i'w cartrefi.

Dywedodd Rob Long, Prif Swyddog Gweithredu Wales & West Utilities: “Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r gwasanaethau brys yn dilyn ffrwydrad mewn eiddo yn ardal Heol Clydach, Abertawe fore ddoe (13 Mawrth). Fel y gwasanaeth brys nwy, ein rôl ni yw gwneud yr ardal yn ddiogel a chefnogi'r ymchwiliad.
 
“Nid yw achos y ffrwydrad yn hysbys eto, ac rydym yn parhau yn y lleoliad i gefnogi’r gwasanaethau brys.
 
“Mae ein meddyliau gyda theulu’r rhai yr effeithiwyd arnynt a chymuned Treforys.”

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.