Newyddion S4C

Moel Famau

Rhybudd melyn o eira arall i Gymru wrth i ddau deulu fynd i drafferthion ar Foel Famau

NS4C 12/03/2023

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn arall o eira a rhew i rannau o Gymru, wedi i gerddwyr fynd i drafferthion ar Foel Famau ddydd Sadwrn.

Cyhoeddwyd bod rhybudd melyn rhwng 17.00 ddydd Llun a 10.00 ddydd Mawrth ar gyfer holl siroedd gogledd Cymru yn ogystal a gogledd Powys.

Daw hyn wedi i Wasanaeth Chwilio ac Achub Gogledd Ddwyrain Cymru ddweud eu bod nhw wedi derbyn galwadau am help gan ddau deulu ar wahân ar Foel Famau ddydd Sadwrn.

Dywedodd y gwasanaeth achub bod y teuluoedd bellach i lawr o’r mynydd, sydd rhwng siroedd y Fflint a Dinbych, ac yn saff.

Dywedodd y gwasanaeth achub nad oedd modd gweld y tu hwnt i 100m (328 troedfedd) ar y pryd.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y bydd y tywydd garw yn dychwelyd ddechrau'r wythnos nesaf, wedi bwlch o dywydd ychydig yn gynhesach.

Dywedodd Daniel Rudman o’r  Swyddfa Dywydd fod yna “yna arwydd y bydd awyr oer yn bwydo i mewn i’r DU o’r gogledd ddydd Llun.

“Bydd llawer o'r DU yn debygol o fod dan ddylanwad tywydd oerach dros nos i ddydd Mawrth," meddai.

“Mae disgwyl i ddydd Mawrth barhau’n ddiwrnod oer, ond does dim disgwyl iddo fod mor oer ag y bu’r amodau’r wythnos hon.

“Mae’n debygol y bydd rhai cawodydd hefyd, ond mae disgwyl i unrhyw eira ddisgyn dros dir uwch.”

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.