Cymru yn ennill o’r diwedd drwy drechu’r Eidal yn Rhufain
Mae Cymru wedi ennill o’r diwedd yn y Chwe Gwlad gyda buddugoliaeth o 29 o bwyntiau i 17 dros yr Eidal yn Rhufain.
Fe fydd rhyddhad i Gymru wrth osgoi'r llwy bren ond bydd ail hanner pan frwydrodd yr Eidal yn ôl i mewn i’r gêm yn codi cwestiynau newydd i’r hyfforddwr Warren Gatland.
Yr Eidal oedd ffefrynnau sawl un cyn dechrau’r gêm ar ôl perfformiadau trychinebus gan Gymru yn erbyn Iwerddon, yr Alban a Lloegr yn eu gemau blaenorol.
Roedd Cymru wedi gwneud chwech newid i’r tîm tra bod yr Eidal heb un chwaraewr yn unig - eu seren ifanc Ange Capuozzo a sgoriodd y cais i drechu Cymru yng Nghaerdydd y llynedd.
Ond fe wibiodd Cymru 22 pwynt i dri ar y blaen yn yr hanner cyntaf yn y Stadio Olimpico gyda cheisiau gan Rio Dyer a Liam Williams.
Cafodd Lorenzo Cannone garden felen ac fe wnaeth y dyfarnwr benderfynu fod Cymru yn haeddu cais gosb.
Ond doedd dim rhaid i Gymru wneud llawer er mwyn ennill tir na phwyntiau yn yr hanner cyntaf wrth i’r Eidal wneud camgymeriad ar ôl camgymeriad.
Taro nôl
Tarodd yr Eidal yn ôl yn syth yn yr ail hanner gyda chais gan Sebastian Negri.
Ond roedd ail gerdyn melyn i’r tîm funudau wedyn i’r asgellwr Pierre Bruno, a oedd wedi arwain gyda’i benelin i mewn i wddf Wyn Jones.
Cymerodd Gymru fantais lawn wrth i Rhys Webb daflu ffug-bas a rhoi Taulupe Faletau i fewn i’r gornel am bwynt bonws.
Gyda’r pwynt bonws wedi ei sicrhau, gadawodd Josh Adams a Rhys Webb y cae yn fuan wedyn a daeth Louis Rees-Zammit a Tomos Williams ymlaen yn eu lle.
Daeth George North ymlaen yn lle Liam Williams ar ôl i’r cefnwr daro i mewn i Paolo Garbisi yn yr awyr ac anafu ei ysgwydd.
Gyda’r gêm yn tynnu at ei therfyn roedd angen rywbeth arbennig gan yr Eidal ac roedden nhw fel petaen nhw’n gwella wrth i’r ornest fynd yn ei blaen.
Fe groesodd Juan Ignacio Brex wedi pas gan Pierre Bruno gan ddod a nhw’n ôl o fewn dau gais gyda deg munud y fynd.
Llun: Taulupe Faletau ©Huw Evans Picture Agency