Newyddion S4C

Drakeford yn emosiynol wrth drafod ‘baich annioddefol galar’

Drakeford yn emosiynol wrth drafod ‘baich annioddefol galar’

Roedd Mark Drakeford yn emosiynol wrth iddo drafod “galar” colli ei wraig yn ystod cynhadledd y Blaid Lafur.

Wrth siarad yn Gymraeg, diolchodd y Prif Weinidog i’r rheini a oedd wedi bod yn gymorth iddo dros yr wythnosau diwethaf.

Bu farw Clare Drakeford yn sydyn yn 71 oed ar 23 Ionawr.

Dywedodd ei fod am greu Cymru “lle allwn ni ddibynnu ar ein gilydd mewn amseroedd anodd”.

“Dibynnu ar garedigrwydd gan ddieithriaid,” meddai. “Nawr, dw i wedi profi ac wedi gwerthfawrogi'r caredigrwydd yna dros yr wythnosau diwethaf.

“Geiriau o garedigrwydd a chydymdeimlad gan bobl o fewn ein plaid ni ond hefyd pobl dw i byth wedi cwrdd â nhw.

“Mae hwnna wedi bod yn gryfder i mi yn bersonol. Diolch o galon i chi gyd.”

Tua diwedd yr araith torrodd ei lais wrth iddo drafod cenhadaeth y Blaid Lafur.

“Hyd yn oed ar yr adegau o beryg mwyaf,” meddai. “A hyd yn oed pan mae ein calonnau wedi eu pwyso i lawr gan faich annioddefol galar.

“Rydyn ni’n gwybod ein dyletswydd. Ein rhwymedigaeth foesol.”

‘Peryglus’

Ychwanegodd Mark Drakeford nad drwy “amddiffyn y status quo” fydd diogelu'r Deyrnas Unedig.

“Drwy ganoli grym mewn modd nerfus a cheisio gosod dymuniad Whitehall fel y mae’r llywodraeth yma wedi gwneud tro ar ôl tro.

“Yn hytrach rhaid adeiladu partneriaeth newydd cyfartal yn seiliedig ar barch.

“Mae’n fater o gael yr hyder i ailddosbarthu grym a chyfloedd mewn modd radical - i bob cymuned, bob cenedl, a bob rhan o’r wlad.”

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod araith Mark Drakeford wedi “ceisio beio pawb ond y fo ei hun” a’i fod yn araith “beryglus a radical”.

“Wedi 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru mae Mark Drakeford yn parhau i feio San Steffan am drychinebau ei blaid yng Nghymru,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.

“Yn hytrach na cheisio cadw cenedlaetholwyr yn hapus fe ddylai Mark Drakeford fod yn canolbwyntio ar y rhestrau aros hiraf ym Mhrydain.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.