Chwe Gwlad: 'Rhaid i Gatland a Chymru esblygu, neu fe gawn ni ein gadael ar ôl'

Mae’n rhaid i Warren Gatland a Chymru ddilyn esiampl yr Eidal ac esblygu eu harddull o chwarae neu fe fydd y crysau cochion mewn perygl o gael eu gadael ar ôl.
Dyna farn cyn-gapten Cymru, Gwyn Jones, fydd yn y Stadio Olimpico yn Rhufain ddydd Sadwrn yn sylwebu ar y gêm dyngedfennol rhwng Yr Eidal a Chymru ar S4C.
Mae’r ddau dîm wedi colli eu tair gêm agoriadol ac mae'n debyg mai’r tîm fydd yn colli'r penwythnos yma fydd yn derbyn y llwy bren ar ddiwedd y bencampwriaeth.
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi gwneud chwe newid i’r tîm a gollodd yn erbyn Lloegr, gyda’r profiadol Rhys Webb yn cychwyn fel maswr, Louis Rees-Zammit ar y fainc ac Alun Wyn Jones a Christ Tshuinza ymysg y rhai sy'n colli allan yn gyfan gwbl.
Ond nid y chwaraewyr sydd angen eu newid medd Gwyn Jones, ond y dull o chwarae.
Hen syniadau?
“Roedd e’n sioc pan gollodd Cymru yn erbyn yr Eidalwyr flwyddyn ddiwethaf, ond y tro hwn, mae’r mwyafrif yn disgwyl i Gymru golli,” meddai.
“Mae hynny’n rhannol oherwydd datblygiad yr Azzuri, ond dydyn nhw ddim yn ffefrynnau i drechu unrhyw dîm arall, felly mae’n dweud mwy am ddirywiad Cymru.
“Y gobaith oedd y byddai Warren Gatland yn dod a sefydlogrwydd a threfn i’r tîm, ond os rhywbeth, mae pethau wedi gwaethygu ers iddo ddychwelyd. Mae ffactorau eraill ar waith wrth gwrs, ond mae Cymru yn is ar restr detholion y byd nag yr oeddynt o dan Wayne Pivac.
“Dw i ddim yn derbyn bod gan yr Eidal well chwaraewyr na Chymru. Ond os mae Cymru yn parhau i chwarae yn yr un ffordd, fe wnawn nhw gwympo ymhellach tu ôl i weddill y timoedd.
“Y cwestiwn mawr yw, a yw Gatland yn gallu newid? Ydy o’n fodlon newid? Ni ddim yn disgwyl trawsnewidiad mawr mewn tair wythnos, ond os ydy’r tîm am chwarae mwy o rygbi, mi ddylwn ni weld camau bach tuag at hynny erbyn hyn.
“Mae Gatland yn hyfforddwr gwych ac yn ddyn mor llwyddiannus, ond a fydd ei ail gyfnod yng Nghymru yn dangos bod ei syniadau wedi dyddio bellach?”
Bygythiad yr Azzuri
Er mai’r Eidal fydd yn fuddugol yn ôl llawer o gefnogwyr a gwybodusion, a hynny ar ôl eu perfformiadau dewr yn erbyn Ffrainc, Lloegr ac Iwerddon - mae Gwyn Jones yn credu mai Cymru fydd yn mynd â hi.
“Mae’r Eidal yn dîm sy’n chwarae â sgil a thempo uchel, ac wedi datblygu’n dda iawn o dan yr hyfforddwr Kieran Crowley," meddai.
“Maen nhw’n herio amddiffynfeydd a cheisio creu cyfleoedd. Maen nhw wedi perfformio’n dda yn erbyn Ffrainc, Iwerddon a Lloegr, gan sgorio dwbl y nifer o geisiau o gymharu â Chymru.
“Rydw i’n grediniol fod chwaraewyr Cymru yn well na rhai’r Eidal. A rywsut, dw i’n gweld y cochion yn ennill ac osgoi’r llwy bren.
“Dwi ddim yn siŵr sut, ond mae’n rhaid i mi gredu er mwyn cadw gobaith at y dyfodol.”
Gwyliwch Yr Eidal v Cymru yn fyw ar S4C am 13.30 ddydd Sadwrn.