Oriel gelf boblogaidd yng Nghaerdydd i gau wedi dros 30 o flynyddoedd
Mae perchennog oriel gelf boblogaidd yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi y bydd yn cau ei drysau am y tro olaf ar ddiwedd mis Mawrth.
Dywedodd Martin Tinney y bydd y busnes 'Martin Tinney Gallery' yn dod i ben ar 31 Mawrth, gan ei fod yn ymddeol.
Mewn neges ddydd Iau, dywedodd: "Ar ôl 33 o flynyddoedd... rwy'n ymddeol o'r busnes ac yn cau'r oriel ar y 31ain o Fawrth 2023.
"Mae wedi bod yn fraint hyrwyddo artistiaid rhagorol Cymru ac fe fydd yr arddangosfa derfynol yn cynnwys gweithiau gan nifer o'r artistiaid a gynrychiolwyd gan yr oriel dros y blynyddoedd.
"Diolch i bawb sydd wedi cefnogi'r oriel yn ystod yr amser hwnnw, yn enwedig yr holl artistiaid... ac yn olaf diolchiadau arbennig o wresog i'm staff am eu hymroddiad a'u hamynedd."
Bu'r oriel yn cynrychioli rhai o artistiaid amlycaf Cymru dros y degawdau diwethaf, gan gynnwys Shani Rhys James, Mary Lloyd Jones, Claudia Williams, Kevin Sinnott a Gwilym Prichard.