Newyddion S4C

Pryderon am dirlithriad Nefyn fis yn ddiweddarach

Newyddion S4C 19/05/2021

Pryderon am dirlithriad Nefyn fis yn ddiweddarach

Mae'n fis ers i dirlithriad mawr achosi anhrefn yn Nefyn, Llŷn - ac mae'r pryderon am ddiogelwch yn parhau yno. 

Ers y digwyddiad mae cannoedd wedi heidio yno i weld y difrod ac yn mentro'n agos iawn at y safle, rhai hyd yn oed wedi'u gweld yn torheulo neu gael barbeciws yno. 

Mae sefyllfa yn poeni pobl leol, ac mae rhai yn galw am wneud mwy i rybuddio pobl am y peryglon.

Dywedodd Ystâd y Goron, sy'n berchen ar rannau o arfordir Cymru, nad yw ei pherchnogaeth yn ymestyn i lefel y clogwyn. 

'Cymryd cyfrifoldeb'

Dywedodd Catrin Roberts o Gyngor Tref Nefyn: “Mae 'na ddryswch oes. Mae o fel ryw fath o dir neb pan mae'n dod i lawr i drio cael trefn ar y sefyllfa.

"Y Goron sydd yn berchennog ar y tir, y traeth yn fan hyn. 'Da ni wedi bod trwy Liz Saville ein haelod seneddol ni mewn cysylltiad hefo nhw i drio cael trafodaethau ynglŷn â thrio sortio'r broblem.

"Ond hyd yn hyn does 'na ddim ymateb o gwbl wedi dŵad. Mi fyswn ni yn licio petai rywun yn cymryd rhyw fath o gyfrifoldeb. Nid jyst gosod arwyddion i fyny, ond yn rhoi rhyw arweiniad ar be ddylai digwydd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Ystâd y Goron: “Ystâd y Goron sydd berchen ar oddeutu hanner y blaendraeth (rhan o’r traeth rhwng marc penllanw mawr a marc cymedrig uchel ac isel y dŵr) a rhan fwyaf o wely'r môr o amgylch Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

"Nid yw ein perchnogaeth yn ymestyn i ardal y traeth uwchben y prif farc cymedrig nac i wyneb y llethr serth neu'r clogwyn uwchben. Dyma lle oedd tarddiad y tirlithriad a dyma'r ardal lle mae'r gwaddod yn ei feddiannu ar hyn o bryd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.