Newyddion S4C

Cynhyrchiad drama newydd yn gadael i bobl dalu beth maen nhw’n ei ddymuno

Cynhyrchiad drama newydd yn gadael i bobl dalu beth maen nhw’n ei ddymuno

Newyddion S4C 08/03/2023

Fe all pobol ddewis talu beth maen nhw ei eisiau i weld cynhyrchiad newydd gan National Theatre Wales.

Bydd rhestr o brisiau mynediad gwahanol ar gyfer The Cost of Living yn Theatre y Grand Abertawe gyda'r nod o ddenu pobol o gefndiroedd gwahanol.

Mae prisiau'r cynhyrchiad tair rhan yn amrywio o £8 i £22 ac fe all pobol ddewis ble maen nhw'n eistedd.

Bydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformio rhwng Mawrth 17 a 25.

Yn ôl National Theatre Wales, mae bron i 43% o bobol o grwpiau ecomomaidd gymdeithasol mwy breintiedig yn debygol o fynd i'r theatr unwaith y flwyddyn.

Ond 29.4% yw'r ffigwr cyfatebol ymhlith pobol llai breintiedig.

Mae'r cwmni wedi cyflwyno cynllun mynediad tebyg yn y gorffennol ac yn bwriadu parhau i'w ystyried ar gyfer cynhyrchiadau yn y dyfodol.

'Drych'

Yn sgil yr argyfwng costau byw mae'r The Cost of Living yn ceisio adlewyrchu yr argyfwng costau byw a'i effaith ar bobol.

Mae'r rhan gyntaf yn gyfle i'r gynulleidfa rannu eu profiadau o'r argyfwng costau byw gyda rhai o arweinwyr cymdeithas.

Sioe yw'r ail ran, Joseph K and the Cost of Living, gyda'r rhan olaf yn gig cerddorol gan HMS Morris ymysg artistiaid eraill gyda chanu protest.

Dywedodd Lorne Campbell, Cyfarwyddwr Artistig National Theatre Wales: "Mae gwneud theatr yn hygyrch yn rhan annatod o'n gwaith. 

"Dyma pam bod ganddo ni gynllun talu beth allwch chi dalu am docynnau i weld The Cost of Living. Gall pobl ddewis talu £8, £16 neu £22 am docyn - heb unrhyw wahaniaeth mewn seddi neu fynediad i'r sioe. 

"Mae pob tocyn yn cynnwys mynediad i'r tair rhan - ond gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw eich lle i ran un os hoffech chi ymuno ar gyfer hwnna."

Yn ôl Ioan Hefin, un o'r perfformwyr ac aelod o'r cast, mae'r theatr yn rhoi "rhyw fath o ddrych i gymdeithas".

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.