Newyddion S4C

Ffederasiwn yr heddlu yn gofyn am godiad cyflog o 17% i swyddogion

S4C

Mae Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr (PFEW) wedi gofyn am godiad cyflog o 17% i'w swyddogion. 

Dywedodd y ffederasiwn fod cyfyngiadau ar eu hawl i streicio yn effeithio yn negyddol ar eu cyflogau. 

Fe wnaeth y ffederasiwn rybuddio'r llywodraeth nad oes modd bellach i "eistedd yn ôl ac anwybyddu hawliau sylfaenol ein haelodau" wrth alw am godiad cyflog. 

Mae'r PFEW yn cynrychioli mwy na 139,000 o swyddogion ac fe wnaeth gyfeirio at ymchwil annibynnol gan Sefydliad y Farchnad Gymdeithasol (SMF).

Mae'r adroddiad yn nodi fod cyflogau heddlu wedi syrthio 20% yn is na chwyddiant ers 2000 tra bod cyflogau ASau wedi cynyddu o 4% yn yr un cyfnod, yn ôl y ffederasiwn. 

'Parch'

Ychwanegodd y PFEW fod peidio gallu gweithredu yn ddiwydiannol yn "anfantais amlwg" i'r proffesiwn wrth gymharu â'r holl weithwyr brys eraill, a'i fod yn "amser i ddeffro i'r rhai sy'n llunio'r polisi".

Dywedodd Cadeirydd y ffederasiwn, Steve Hartshorn: "Am amser hir, mae Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr wedi bod yn gweithio i sicrhau cyflogau ac amodau gwell ar gyfer ein haelodau.

"Mae swyddogion heddlu yn risgio eu bywydau bob dydd ac yna i wasanaethu ac amddiffyn eu cymunedau.

"Maent yn haeddu cael eu trin gyda pharch ac urddas, ac mae hynny yn cychwyn gyda thâl gwell - sydd nid yn unig yn adlewyrchu'r argyfwng costau byw sy'n wynebu cynifer ohonom, ond sydd hefyd yn gwneud cyfiawnder yn dilyn y gostyngiad o 17% ers 2000 yn ogystal â'r peryglon sy'n eu hwynebu fel rhan o'r swydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.