Tîm rygbi menywod Cymru yn cyhoeddi carfan ar gyfer y Chwe Gwlad

Mae carfan tîm rygbi menywod Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad TikTok wedi ei henwi.
Mae’r Prif Hyfforddwr Ioan Cunningham wedi cynnwys 36 chwaraewr yn y garfan, gan enwi Hannah Jones fel capten.
Mae chwe chwaraewr sydd heb ennill cap wedi eu cynnwys, sef y prop Abbey Constable, y blaenasgellwyr Bryonie King a Katie Williams, y clo Charlie Mundy, a’r canolwyr Catherine Richards a Jenna De Vera.
Daw hyn ar ôl i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi bod 25 chwaraewr o’r tîm cenedlaethol wedi ennill cytundebau proffesiynol.
Bydd Cymru yn dechrau eu hymgyrch Chwe Gwlad gyda gêm gartref yn erbyn Iwerddon ym Mharc yr Arfau ar Ddydd Sadwrn 25 Mawrth.
Cafodd y garfan ei henwi ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman, sef yr ysgol ble'r oedd chwaraewyr Cymru Hannah Jones a Ffion Lewis yn ddisgyblion, yn ogystal â'r Prif Hyfforddwr, Ioan Cunningham.
'Braint'
Dywedodd Hannah Jones: “’Da ni wedi gweithio mor galed fel grŵp dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’n fraint i arwain y garfan yma.
“Rydyn ni eisiau adeiladau ar yr hyn a wnaethon y llynedd. Fe wnaethon ni orffen trydydd yn y Chwe Gwlad, sydd yn wych, ond ‘da ni’n gwybod bod angen parhau i wella ar ein perfformiadau er mwyn trawsnewid ein canlyniadau.”
Carfan lawn - Blaenwyr: Abbey Constable, Abbie Fleming, Alex Callander, Bethan Lewis, Bryonie King, Cara Hope, Caryl Thomas, Carys Phillips, Cerys Hale, Charlie Mundy, Georgia Evans, Gwen Crabb, Gwenllian Pyrs, Kat Evans, Kate Williams, Kelsey Jones, Natalia John, Sioned Harries, Sisilia Tuipulotu.
Olwyr: Amelia Tutt, Carys Williams-Morris, Catherine Richards, Courtney Keight, Elinor Snowsill, Ffion Lewis, Hannah Bluck, Hannah Jones (C), Jenna De Vera, Keira Bevan, Kerin Lake, Lisa Neumann, Lleucu George, Lowri, Norkett, Megan Davies, Niamh Terry, Robyn Wilkins.