Y BBC i 'gynnal sgwrs' gyda Gary Lineker ar ôl ei feirniadaeth o bolisi lloches y llywodraeth

Mae'r BBC yn bwriadu “cynnal sgwrs” gyda’r cyflwynydd teledu Gary Lineker ar ôl ei sylwadau yn awgrymu fod yr iaith o amgylch polisi ceiswyr lloches Llywodraeth San Steffan yn debyg i'r hyn ddefnyddiwyd yn yr Almaen yn y 1930au.
Mae gweinidogion Ceidwadol San Steffan wedi galw ar y BBC i ddiswyddo Lineker ar ôl ei drydariad ar nos Fawrth yn ymateb i bolisi lloches newydd y llywodraeth, fydd yn ceisio atal ceiswyr lloches rhag croesi'r môr o Ffrainc i Loegr mewn cychod bychain.
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman, sydd yn gyfrifol am y ddeddfwriaeth, yn dweud nad yw’r sylwadau “yn helpu”.
Mewn neges ar Twitter, fe ddywedodd y cyn-chwaraewr pêl-droed: “Does dim llif enfawr. Rydyn ni’n cynnig lloches i lawer iawn llai o ffoaduriaid na gwledydd eraill yn Ewrop.
“Mae hwn yn bolisi creulon tu hwnt sydd wedi ei gyfeirio at y bobl fwyaf bregus gydag iaith sydd ddim yn annhebyg i hynny a ddefnyddiwyd yn yr Almaen yn y 30au.”
Mewn datganiad, fe ddywedodd y BBC y byddai’n atgoffa Lineker o’i gyfrifoldebau.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Mae’r BBC wedi cyhoeddi canllawiau cyfryngau cymdeithasol. Mae unigolion sydd yn gweithio i ni yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o gydymffurfio gyda nhw. Mae proses mewnol addas mewn lle os oes angen.”
Mae'r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman wedi beirniadu sylwadau Gary Lineker gan ddweud eu bod yn "siomedig."
Ac yn ôl dirprwy gadeirydd y Blaid Geidwadol Lee Anderson, dylai'r cyflwynydd lynu at " ddarllen canlyniadau pêl-droed a rhannu creision."
Ond mae Gary Lineker wedi gwneud sylwadau pellach ar Twitter fore Mercher, gan ddweud y bydd yn "parhau i geisio siarad dros y trueiniaid sydd heb lais."