Newyddion S4C

Marwolaethau Caerdydd: Rhai cannoedd mewn gwylnos

07/03/2023

Marwolaethau Caerdydd: Rhai cannoedd mewn gwylnos

Mae rhai cannoedd yn bresennol mewn gwylnos yn Llaneirwg, Caerdydd i gofio am dri o bobl ifainc a fu farw wedi gwrthdrawiad yn yr ardal.  

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru nos Lun fod Eve Smith, 21, Darcy Ross, 21 a Rafel Jeanne, 24 wedi marw yn y digwyddiad. Mae Sophie Russon, 20, a Shane Loughlin, 32, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty. 

Mae tân gwyllt wedi ei danio ar safle'r wylnos nos Fawrth, wrth i ffrindiau a theuluoedd ymgynnull yno i gofio a galaru.  

Mewn datganiad ar y cyd brynhawn Mawrth, cyhoeddodd Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent ragor o wybodaeth ynglŷn â pha bryd y gwnaethon nhw dderbyn adroddiadau fod pobol ar goll, a pha bryd y cafwyd hyd i'r cerbyd.

Yn ôl yr heddlu, y tro diwethaf i’r pump gael eu gweld oedd am 2 o'r gloch, fore Sadwrn 4 Mawrth ym Mhentwyn yng Nghaerdydd.

Mae'r heddlu o'r farn i'r gwrthdrawiad ddigwydd yn ystod oriau man fore Sadwrn 4 Mawrth "gyda’r amser penodol i’w gadarnhau yn yr ymchwiliad, yn sgil ymholiadau camerâu cylch cyfyng (CCTV) a thechnoleg adnabod platiau cofrestru (ANPR)."

Yn ôl yr heddlu, cafodd yr adroddiad person coll cyntaf ei gyflwyno i Heddlu Gwent am 7.34 yh, ddydd Sadwrn 4 Mawrth.

Fe gafodd rhagor o adroddiadau person coll eu trosglwyddo i Heddlu Gwent am 7.43 yh a 9.32 yh, ddydd Sadwrn 4 Mawrth.

Cafodd adroddiad person coll ei anfon at Heddlu De Cymru am 5.37 yh ar ddydd Sul 5 Mawrth.

Mae'r heddluoedd wedi nodi hefyd fod hofrennydd yr heddlu wedi cynnal archwiliad uwchben ardal yng Nghaerdydd, am 11.50 yh ar Ddydd Sul 5 Mawrth, a arweiniodd at gerbyd yn cael ei ddarganfod  mewn ardal goediog ger yr A48.

Yn ôl y datganiad, fe  wnaeth swyddogion Heddlu Gwent ddarganfod cerbyd Volkswagen Tiguan yr oedd y pump yn teithio ynddo am 12.15 fore Llun 6 Mawrth.

Cyhoeddodd y ddau lu y manylion wedi i ffrindiau a theulu'r bobol ifanc gwestiynu ymateb yr heddlu yn ystod y cyfnod yr oedd y pump ar goll. 

Mae ffrind i'r tair menyw yn honni mai aelodau o'r cyhoedd wnaeth ddarganfod y car.

Dywedodd Tamzin Samuels, 20, ei bod hi'n credu "y gallai'r heddlu fod wedi cael yr hofrenyddion allan yn gynt. Fe wnaethom nhw lansio apêl awr yn unig cyn i'r menywod gael eu darganfod.

"Fe wnaethom ni eu darganfod nhw cyn yr heddlu - ni wnaeth ffonio'r heddlu."

Ychwanegodd fod hyn yn "siarad cyfrolau, roedd ganddyn nhw'r holl offer, ac roeddem ni yn chwilio yn ein ceir.

Fe wnaeth mam Sophie Russon, Anna Certowicz, gwestiynu pam ei bod hi wedi cymryd mor hir i ddod o hyd i'r cerbyd.

Wrth siarad â'r Daily Mail, dywedodd Ms Certowicz bod ei merch mewn cyflwr critigol ond yn sefydlog yn yr ysbyty ar ôl cael triniaeth yn sgil gwaedlun ar yr ymennydd ac anafiadau i'w gwddf, asgwrn cefn a'i hwyneb.

Dywedodd ei bod hi wedi pasio'r man lle y cafodd y car ei ddarganfod deirgwaith ac bod ei merch wedi bod yn "ymwybodol peth o'r amser" yn y car ac "wedi galw ond doedd neb ddigon agos i'w chlywed."

Ychwanegodd fod "Sophie wedi bod yn gorwedd yno am yr holl amser, gallent fod wedi cael eu darganfod yn llawer cynt pe bai'r heddlu wedi dechrau chwilio yn syth."

Dywedodd cyn Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Syr Winston Roddick wrth Newydidon S4C, y dylai'r ymchwiliad  fod wedi dechrau yn syth ar ôl i'r pum person fynd ar goll. 

"Pobl ifanc y dyddiau hyn yn cadw mewn cyswllt parhaol trwy eu ffôn symudol ac od iawn bod distawrwydd wedi cwympo ar y pump yma ar yr un adeg. 

"Oedd hwnna yn ei hun yn pwyntio tuag at y casgliad yr oedd rhywbeth anghyffredin iawn, ella rhywbeth peryglus iawn, wedi disgyn ar y pump. 

"Ac felly, mae hyny yn cyfiawnhau ymchwiliad effeithiol ar y pryd."

Mae Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi cyfeirio eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) mewn cysylltiad â'r achos, yn unol â'r drefn arferol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.