Newyddion S4C

cefnogwyr Lerpwl champions league final

Cefnogwyr Lerpwl i dderbyn ad-daliad wedi anhrefn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr

NS4C 07/03/2023

Fe fydd UEFA yn cynnig ad-daliad i gefnogwyr Lerpwl ar docynnau ffeinal Cynghrair y Pencampwyr 2022.

Bydd ad-daliadau yn cael ei gynnig i'r 19,618 o gefnogwyr a fynychodd y gêm yn erbyn Real Madrid ym Mharis.

Daw'r penderfyniad hwn yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau adroddiad annibynnol ddaeth i'r casgliad mai UEFA oedd yn gyfrifol am yr anhrefn cyn y gêm.

Bu oedi o 36 munud cyn i’r chwarae ddechrau wrth i filoedd o gefnogwyr Lerpwl fethu a chael mynediad i'r stadiwm, gyda rhai wedi cwyno fod yr heddlu wedi defnyddio nwy dagrau arnyn nhw.

Fe wnaeth yr adroddiad ddweud hefyd ei bod hi'n "rhyfeddol fod neb wedi marw" o ganlyniad i'r anrhefn cyn y ffeinal ar 28 Mai'r llynedd. 

I ddechrau, fe wnaeth UEFA a'r awdurdodau yn Ffrainc roi'r bai ar gefnogwyr oedd heb docynnau i'r gêm, ond yn ôl yr adroddiad annibynnol , doedd "dim tystiolaeth" i gefnogi'r honiadau hyn. 

Fe wnaeth yr adroddiad hefyd ddarganfod wyth ffactor allweddol a "wnaeth bron arwain at ddinistr" yn sgil methiannau UEFA ar y noson.

Llun: Wochit

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.