Newyddion S4C

Arestio dyn arall mewn cysylltiad â marwolaeth Tomasz Waga yng Nghaerdydd

06/03/2023
NS4C

Mae'r heddlu wedi arestio dyn arall mewn cysylltiad â marwolaeth Tomasz Waga yng Nghaerdydd yn 2021. 

Cafodd Elidon Elezi, 22 oed o ddwyrain Finchley yn Llundain ei arestio a'i gyhuddo o gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp troseddol a thorri amodau mechnïaeth. 

Dyma'r pumed person i gael ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth Mr Waga. Mr Elezi oedd yr unigolyn olaf yr oedd yr heddlu yn chwilio amdano mewn cysylltiad â'r achos. 

Cafodd Mr Waga, 23, ei ddarganfod yn farw ar stryd yn ardal Penylan yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2021. 

Mae tri dyn eisoes wedi'u carcharu am ladd Mr Waga, wedi iddo geisio dwyn o ffatri ganabis oedd wedi'i rheoli gan gang troseddol. 

Cafwyd Josif Nushi, 27, a Mihal Dhana, 29, yn euog o lofruddiaeth a'u carcharu am oes ym mis Ionawr eleni.

Mae Hysland Aliaj  hefyd wedi'i garcharu am 10 mlynedd wedi iddo gael ei ddyfarnu'n euog o ddynladdiad. 

Cafodd dyn arall, Artan Palluci, 31, ei arestio yn Llundain fis diwethaf ar amheuaeth o gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp troseddol a thorri amodau mechnïaeth.

Mae Mr Palluci yn parhau yn y ddalfa wrth aros am ei achos llys. 

Fe wnaeth Mr Elezi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 1 Mawrth. Fe fydd yn parhau yn y ddalfa tan ei wrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.