Newyddion S4C

pentre awel

Pentre Awel: Dechrau'r gwaith o adeiladu pentref llesiant newydd yn Llanelli

NS4C 06/03/2023

Mae'r gwaith adeiladu ar bentref llesiant newydd wedi dechrau yn Llanelli ddydd Llun.

Pentre Awel yw enw'r datblygiad, a'r gobaith yw y bydd yn dod â chyfleusterau busnes, ymchwil, addysg, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern at ei gilydd mewn un lleoliad ger arfordir Llanelli.

Wrth nodi dechrau'r gwaith yn ffurfiol, fe wnaeth Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price, groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, partneriaid a rhanddeiliaid i safle'r prosiect.

Pentre Awel yw'r datblygiad cyntaf o'i fath a'i faint yng Nghymru yn ôl y cyngor, a'i fwriad fydd darparu ymchwil feddygol a gofal iechyd gan gefnogi ac annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach.

Fe fydd y prosiect yn creu dros 1,800 o swyddi a chyfleoedd hyfforddi/prentisiaethau, gyda'r gobaith y bydd yn rhoi hwb o £467m i'r economi leol dros y 15 mlynedd nesaf.

'Prosiect o bwys'

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Darren Price: "Rwy'n falch iawn o groesawu holl gynrychiolwyr allweddol y sefydliadau partner i'r safle ar y diwrnod pwysig hwn pan fyddwn yn dechrau ar y gwaith adeiladu yn swyddogol.

“Mae Pentre Awel yn brosiect adfywio strategol o bwys i Gyngor Sir Caerfyrddin ac mae'n ganolog i gyflawni ein Cynllun Adfer Economaidd. Er mai Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n arwain y datblygiad uchelgeisiol hwn, ni fyddai'n bosibl heb gefnogaeth ac ymroddiad gan ystod eang iawn o randdeiliaid y mae pob un ohonynt yn cael eu cynrychioli yma heddiw.”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies: “Mae hwn yn brosiect cyffrous a phwysig ac mae Llywodraeth y DU yn falch o'i gefnogi drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

“Mae gan Bentre Awel botensial i ddod â chryn fanteision i'r ardal leol drwy gyfleusterau iechyd a hamdden o'r radd flaenaf ond hefyd drwy gyfleoedd gwaith a hyfforddiant. Dyma 'godi'r gwastad' ar waith ac rwy'n falch iawn o weld y prosiect hwn yn cyrraedd ei gam datblygu nesaf.”

Mae Pentre Awel yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, prifysgolion a cholegau, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd, Coleg Sir Gâr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe.

Mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd yn darparu £40m i'r cynllun.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.