Rhybudd melyn am rew ac eira mewn mannau nos Lun

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew ac eira i rannau o Gymru nos Lun.
Fe fydd y rhybudd mewn grym rhwng 21:00 nos Lun a 10:00 fore dydd Mawrth, ac fe all y tywydd garw effeithio ar siroedd y de a'r de orllewin yn bennaf.
Fe allai glaw droi'n eira ar dir uchel a hefyd mewn mannau is, ac mae rhybudd y gallai'r tywydd effeithio ar amodau gyrru ar y ffyrdd ac i deithwyr ar drenau.
Hefyd fe allai rhew ar balmentydd sydd heb eu trin arwain at bobl yn disgyn neu lithro.
Y siroedd sydd dan sylw'r Swyddfa Dywydd yng Nghymru ar gyfer y rhybudd melyn yw:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gâr
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg