Perchennog caffi yn Abertawe yn talu £3,000 i osod ei gamera cyflymder ei hun y tu allan
Mae perchennog caffi yn Abertawe wedi talu £3,000 er mwyn gosod ei gamera cyflymder ei hun ar y ffordd y tu allan.
Dywedodd Paul Hooper fod y camera wedi cofnodi un cerbyd yn teithio ar 106mya a bod sawl un yn mynd ar 70mya.
Dim ond 30mya ydi’r terfyn cyflymder ar Ffordd Ystumllwynarth y tu allan i’w gaffi.
“Rwy’n credu mai dyma’r ffordd 30mya gyflymaf yn y Deyrnas Unedig,” meddai’r dyn 57 oed.
“Doeddwn i heb sylweddoli pa mor wael fyddai pethau. Ro’n i wedi disgwyl iddo fod yn gyson.
“Ond mae i fod yn 30mya
Roedd 27% o’r ceir aeth heibio dros y 39 diwrnod diwethaf wedi mynd dros 30mya, meddai.
Dywedodd ei fod bellach am ofyn am ganiatâd y cyngor i ddangos arwydd 30mya a fyddai yn fflachio pan oedd rhywun yn mynd dros y terfyn cyflymder.
‘Annhebygol’
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod nhw’n monitro cyflymder ceir ar Ffordd Ystumllwynarth yn gyson.
“Ychydig iawn o ddigwyddiadau yn ymwneud â thraffig sydd wedi bod ar y ffordd yma dros y blynyddoedd felly mae’n annhebygol y bydd angen ar gyfer mesurau lleddfu traffig ychwanegol,” medden nhw.
Dywedodd Go Safe eu bod nhw wedi bod mewn cyswllt â Paul Hooper ac yn ystyried a oedd y ffordd yn addas ar gyfer fan cyflymder.