Y Ffermwyr Ifanc angen 'apelio at bobl wahanol'
Y Ffermwyr Ifanc angen 'apelio at bobl wahanol'

Mae angen i'r Ffermwyr Ifanc apelio at bobl wahanol medd y prif weithredwr newydd.
Cafodd Mared Rand Jones ei phenodi fel Prif Weithredwr Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru ym mis Ionawr, ac mae hi'n meddwl bod angen iddynt ehangu apêl y mudiad.
Un ffordd o wneud hynny fyddai pwysleisio nad yw'r mudiad i ffermwyr yn unig, meddai.
"Fi'n credu bod angen i ni addasu'r delwedd a falle ca'l y neges 'na allan, achos mae nifer o drafodaethau wedi bod yn y gorffennol yn nodi os 'se'n ni'n newid yr enw, a ma'r aelodau wastod wedi dweud na," meddai.
"Felly newid falle'r neges a'r hyrwyddo a marchnata a cael y neges allan bod e ddim jyst i ffermwyr, ma' fe'n rhywbeth at ddant pawb.
"Ma'r pethe chi'n neud gyda Ffermwyr Ifanc, ma' 'na amrywiaeth o bethe at ddant pawb, felly mae ise ni gwerthu hynny."
Cynnydd mewn aelodaeth
Dros gyfnod y pandemig fe wnaeth y mudiad ddioddef gan nad oedd modd cynnal eisteddfodau, cwrdd i gymdeithasu na chynnal gweithgareddau.
Ond er hynny, mae'r mudiad wedi adfer, ac mae nifer yr aelodau wedi cynyddu ers i gyfyngiadau Covid dod i ben.
"Mae'n fudiad prysur tu hwnt a ma'r egni yn amlwg gyda'r aelodau, felly dwi'n edrych ymlaen," meddai Mared Rand Jones.
"Mae 'na dipyn o heriau gyda ni, ond mae'n braf cyhoeddi ar ôl dod allan o'r pandemig bod yr aelodaeth Ffermwyr Ifanc ar i fyny.
"Felly mae hynny'n bositif tu hwnt, a dwi'n edrych 'mlaen at y cystadleuthe a'r digwyddiade o nawr tan y Sioe Frenhinol, sef y pinnacle."