Newyddion S4C

S4C

Lansio Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

NS4C 04/03/2023

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn cael ei lansio mewn gŵyl arbennig yn Y Lion, Treorci, ddydd Sadwrn.

Bydd y gymuned yn dod ynghyd i gael blas o’r hyn sydd i’w ddisgwyl yn yr Eisteddfod, a gynhelir yn yr ardal yn ystod wythnos gyntaf mis Awst y flwyddyn nesaf. 

Mae disgwyl i berfformwyr, artistiaid a grwpiau cymunedol ar draws y sir fod yn rhan o’r diwrnod yn Y Lion, sy’n rhedeg o 10:00 tan yn hwyr.

Mae’r ŵyl yn dathlu dechrau’r gwaith paratoi ar gyfer yr Eisteddfod, sydd yn dychwelyd i’w gwreiddiau, gan i’r ŵyl fodern gyntaf gael ei chynnal yn Aberdâr yn 1861.

'Falch'

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser, “Rydyn ni’n falch iawn i lansio Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf mewn gŵyl i’r teulu cyfan ddydd Sadwrn yma.  Mae’r Eisteddfod yn ŵyl i bawb ac rydyn ni’n gobeithio y bydd dydd Sadwrn yn gyfle i bawb gael blas ar beth sydd gan yr Eisteddfod i’w chynnig.

“Ein prif neges wrth i ni lansio’r prosiect yw fod yr Eisteddfod yn perthyn i ni i gyd, os ydyn ni wedi bod i’r ŵyl yn y glorffennol neu os ydyn ni eisiau clywed am beth sy’n digwydd yn Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf.  Rydyn ni am i bawb ymuno â ni, yn ddysgwyr, siaradwyr Cymraeg hyderus a phawb sydd wedi colli cysylltiad gydag ein hiaith ers yr ysgol neu sydd heb gael cyfle i ddysgu.

“Mae gennym ni ddigonedd o waith i’w wneud dros y deunaw mis nesaf, yn trefnu cystadlaethau, hyrwyddo’r ŵyl a chodi arian, ac rydyn ni eisiau i bobl o bob cymuned, pentref a thref ar draws y tri chwm i fod yn rhan o’r paratoadau.”

Mae’r partneriaid ar gyfer y digwyddiad yn Y Lion yn cynnwys Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Côr Cwm Rhondda a Dysgu Cymraeg Rhondda Cynon Taf.

Yn dilyn yr ŵyl, bydd trefnwyr yn cynnal cyfarfod agored ym Mhrifysgol De Cymru, Trefforest nos Iau 16 Mawrth am 19:00 i bawb sydd â diddordeb i fod yn rhan o’r gwaith o drefnu’r cystadlaethau a’r gweithgareddau artistig. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.