Newyddion S4C

streic athrawon

Undeb athrawon i fynd ar streic ar ôl gwrthod cynnig tâl newydd gan Lywodraeth Cymru

NS4C 02/03/2023

Bydd aelodau undeb athrawon yn mynd ar streic ddydd Iau wedi iddynt wrthod cynnig tâl newydd gan Lywodraeth Cymru. 

Bydd aelodau undeb yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) yn mynd ar streic yn sgil anghydfod dros amodau a chyflogau. 

Cafodd diwrnod o weithredu ei ohirio gan aelodau'r undeb ar 14 Chwefror ar ôl i’r Llywodraeth gyflwyno cynnig newydd a oedd yn ychwanegu 1.5% ar ben y codiad cyflog o 5% am eleni, ac 1.5% yn ychwanegol fel taliad un tro.

Dywedodd Cyd-ysgrifennydd Cyffredinol yr NEU, Kevin Courtney, fod "gennym ni fandad clir i gynnal streic, sydd wedi ei ail-threfnu ar gyfer 2 Mawrth mewn ysgolion ar draws Gymru.

"Rydym yn ddiolchgar i’r Gweinidog Addysg am ei barodrwydd i gynnal trafodaethau, sydd yn wrthgyferbyniol i’r Llywodraeth yn San Steffan."

Ychwanegodd Ysgrifennydd NEU Cymru, David Evans: "Tra ein bod ni'n cydnabod fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynigion sy'n cynnwys ceisio mynd i'r afael â phwysau gwaith ac ailddechrau trafodaethau ar gyfer 2023/24, dydy'r cynigion ddim yn ddigon da ar gyfer anghenion a disgwyliadau ein haelodau."

Mae dau ddiwrnod arall o streiciau wedi eu trefnu gan yr undeb ar gyfer 15 a 16 Mawrth. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "fod pawb yn cydnabod gwaith anhygoel ein gweithlu, ond maent hefyd yn cydnabod yr heriau ariannol heriol sy'n ein hwynebu. 

"Rydym ni'n credu fod cynnig sy'n gyfystyr â chodiad cyflog o 8%, gyda 6.5% cyfnerthedig, yn un cryf yng nghyd-destun cyllid Llywodraeth Cymru sy'n lleihau."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.