Newyddion S4C

Police / Heddlu Lloegr

Saethu yng Ngogledd Iwerddon: Pedwar dyn wedi eu rhyddhau

NS4C 01/03/2023

Mae pedwar dyn gafodd eu cwestiynu ynglŷn ag ymgais i lofruddio’r Ditectif Arolygydd John Caldwell yng Ngogledd Iwerddon wedi cael eu rhyddhau gan yr heddlu.

Mae swyddogion yn dal i gwestiynu dau ddyn yn dilyn y digwyddiad yn Omagh, Co Tyrone ddydd Mercher diwethaf, ble gafodd y Ditectif Arolygydd Caldwell ei saethu sawl gwaith o flaen ei fab ifanc wrth roi peli troed mewn bwt car.

Mae llys yn Belfast wedi caniatáu rhagor o amser i dditectifs gwestiynu dyn 71 oed a dyn 47 oed.

Mae pedwar dyn arall sy’n 22, 38, 43 a 45 oed, wedi eu rhyddhau ar ôl iddynt gael eu cwestiynu.

Dywedodd llefarydd ar ran Ffederasiwn Heddlu Gogledd Iwerddon fod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae'r Ditectif Arolygydd Caldwell yn parhau'n ddifrifol wael yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad.
 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.