Newyddion S4C

Galw ar i Gymru gael yr un mynediad at farchnad yr Undeb Ewropeaidd â Gogledd Iwerddon

Liz Saville Roberts

Mae un o Aelodau Seneddol Cymru wedi galw yn Nhŷ’r Cyffredin ar i Gymru gael yr un mynediad at farchnad yr Undeb Ewropeaidd â Gogledd Iwerddon.

Roedd y Prif Weinidog Rishi Sunak wedi dweud ddoe fod Gogledd Iwerddon mewn sefyllfa “unigryw” am fod gan y rhanbarth fynediad hawdd at farchnad y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

Ychwanegodd fod Gogledd Iwerddon bellach mewn sefyllfa “anhygoel o arbennig”.

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, awgrymodd AS Dwyfor Meirionydd Liz Saville Roberts y gallai Cymru hefyd fanteisio o fod yn yr un sefyllfa.

“Dywedodd y Prif Weinidog ddoe fod Gogledd Iwerddon mewn safle anhygoel o arbennig o ran cael mynediad breintiedig at farchnad y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd,” meddai'r AS Plaid Cymru.

“Mae hynny’n ddadl wych ar gyfer polisi Plaid Cymru o ail-ymuno â’r farchnad sengl. Pan nad yw hyn yn ddigon da i Gymru?”

'Sicr'

Dywedodd y gweinidog o Swyddfa Cymru, James Davies fod “Cymru wedi pleidleisio yn bendant o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd”.

“Mae hi’n gwybod fod y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon yn hynod o wahanol i Gymru,” meddai.

“Mae cytundeb wedi ei greu yn ofalus er mwyn sicrhau bod y sefyllfa yno yn cael ei diogelu.

“Rydw i’n reit sicr nad ydi'r Undeb Ewropeaidd yn fodlon caniatáu'r hyn y mae hi’n gofyn amdano.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.