Gŵr pennaeth Coleg Epsom wedi marw ar dir yr ysgol yn sgil 'anaf gan wn'

Clywodd cwest fod gŵr pennaeth Coleg Epson yn Surrey wedi marw yn sgil anaf i'w ben gan wn.
Y gred yw fod George Pattison, 39, wedi llofruddio Emma Pattison, 45, a'u merch saith oed Lettie cyn lladd ei hun ar 5 Chwefror.
Cafodd y tri eu darganfod yn farw yn eu cartref ar dir yr ysgol breifat yn Surrey.
Wrth agor y cwest i farwolaeth Mr Pattison ddydd Mawrth, dywedodd y crwner Simon Wickens : “Rwy'n anfon fy nghydymdeimlad dwysaf at deulu George ar adeg mor anodd."
Cafodd gwn a oedd wedi ei gofrestru'n gyfreithlon gan Mr Pattison ei ddarganfod ar safle'r marwolaethau, yn ôl Heddlu Surrey.
Cyhoeddodd y crwner y bydd gwrandawiad cyn y cwest ffurfiol yn cael ei gynnal ar 27 Mehefin.