Newyddion S4C

Isla Bryson

Dedfrydu Isla Bryson i wyth mlynedd yn y carchar

NS4C 28/02/2023

Mae unigolyn a oedd wrth galon ffrae wleidyddol yn yr Alban wedi derbyn dedfryd o wyth mlynedd yn y carchar.

Cafodd yr Uchel Lys Isla Bryson yn euog o dreisio dwy ddynes yn 2016 a 2019 fis diwethaf.

Ar y pryd roedd Isla Bryson, 31, yn ddyn o’r enw Adam Graham, ond mae bellach wedi dechrau derbyn triniaeth ar gyfer newid rhywedd.

Roedd cryn ddadlau gwleidyddol yn yr Alban pan gafodd Isla Bryson le mewn carchar i fenywod cyn ei symud i garchar ar gyfer dynion.

Wrth roi tystiolaeth dywedodd y ddwy a oedd wedi dioddef ymosodiad rhywiol gan Isla Bryson eu bod nhw wedi dweud ‘na’ yn gyson yn ystod yr ymosodiad.

Roedd Isla Bryson yn honni fod y ddwy wedi cydsynio i gael rhyw.

Fe wnaeth y llys glywed bod Isla Bryson bellach yn gobeithio cael llawdriniaeth er mwyn cwblhau’r broses o newid rhywedd.

Llun: Isla Bryson gan Andrew Milligan / PA.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.