Gwleidyddion yn galw am ddiwygio treth cyngor Cymru i annog tai gwyrddach

Mae gwleidyddion wedi galw am ddiwygio treth cyngor Cymru i annog tai gwyrddach.
Byddai’r newidiadau sy’n cael eu hargymell gan un o bwyllgorau’r Senedd yn golygu fod pobol sydd yn lleihau faint o ynni mae eu tai yn ei ddefnyddio yn talu llai o dreth.
Roedd hynny’n cynnwys gosod pympiau gwres yn lle boeleri, ychwanegu neu uwchraddio inswleiddio, a gwella awyru.
Dywedodd Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd fod tai preifat yn cael eu gadael ar ôl o'u cymharu â thai cymdeithasol, er eu bod yn cyfrif am 80 y cant o gartrefi yng Nghymru.
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ei fod yn “hen bryd i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r her”.
"Byddai tai gwyrddach nid yn unig yn well i'r amgylchedd, byddent hefyd yn insiwleiddio pobl yn well rhag prisiau ynni aruthrol,” meddai.
“Dylid canmol y ffocws ar ôl-osod cartrefi sydd mewn tlodi, ond os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â lleihau allyriadau carbon - a biliau ynni - ni allant barhau i anwybyddu’r 80 y cant o dai sy’n eiddo preifat.”
Dylai diwygio’r Dreth Gyngor a’r Dreth Trafodiadau Tir fod yn rhan o becyn o gymhellion i gael perchnogion tai i wneud eu heiddo’n fwy ynni-effeithlon, meddai’r pwyllgor.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod wrthi’n “datblygu strategaeth a chynllun cyflawni cynhwysfawr” er mwyn annog tai gwyrddach.
Llun: Paneli solar gan Lewis Clarke (CC BY-SA 2.0).