Newyddion S4C

Dros hanner y dynion sy'n byw gydag anhwylder bwyta 'erioed wedi derbyn triniaeth na gofyn am help'

Dros hanner y dynion sy'n byw gydag anhwylder bwyta 'erioed wedi derbyn triniaeth na gofyn am help'

Newyddion S4C 27/02/2023

A hithau’n wythnos codi ymwybyddiaeth am anhwylderau bwyta, mae elusen yn dweud fod dros hanner y dynion sy'n byw gydag anhwylder bwyta yng Nghymru 'erioed wedi derbyn triniaeth na gofyn am help'

Yn ôl Beat, mae stigma yn parhau o hyd i ddynion sy’n profi salwch o’r fath. 

Am flynyddoedd lawer fe dreuliodd y cerddor Dylan Cernyw o Fae Colwyn gyfnod yn cuddio’r ffordd roedd o’n teimlo, rhag ei ffrindiau a’i deulu.

Tu ôl i’r wen a oedd yn ymddangos ar lwyfannau a’r sgrin fach, roedd yn brwydro anhwylder bwyta; bulimia ac anorecsia.

Mae elusen BEAT yn amcangyfrif fod mwy na 15,000 o ddynion yn byw gyda chyflyrau tebyg yng Nghymru.

“Nath o gyd gychwyn tua 1986, o'n i tua 16/17 oed”, meddai Dylan Cernyw sy’n delynor proffesiynol.

“Oedd o jyst mynd o un peth i'r llall yn cuddio be o'n i'n neud am flynyddoedd”.

“Ond wedyn methu dod allan o honno fo, ac o'dd o jyst yn rhywbeth o'n i'n neud yn naturiol yn diwedd.

Yn ôl Dylan roedd yn gorfwyta, yn gwneud ei hun yn sâl ac yna’n llwgu ei hun wrth geisio gwneud unrhywbeth i beidio bwyta.

“Doni’m yn hapus de, mae delwedd oherwydd be dwi’n neud, roedd gennai wastad ofn be oedd pobl yn meddwl ohonai neu sut oni’n edrych ar lwyfan. Ma’n rhan fawr ohono ac mae dal i fod."

Image
dylan
Am flynyddoedd fe dreuliodd y cerddor Dylan Cernyw o Fae Colwyn gyfnod yn cuddio’r ffordd roedd o’n teimlo, rhag ei ffrindiau a’i deulu.

Mae’n dweud ei fod yn dal i gael ‘pyliau’ lle maen ei gweld hi’n anodd.

Yn 2019 fe dreuliodd gyfnod yn cael ei fwydo drwy diwb yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Yn ôl llefarydd ar ran elusen Beat, mae'n bwysig fod cymorth ar gael ar gyfer dynion.   

“Da ni wedi lansio cymorth ar-lein i helpu dynion yn benodol – OSPREY a da ni am i ddynion rannu eu teimladau”.

Wedi blynyddoedd o stryffaglu, fe benderfynodd Dylan Cernyw siarad gyda’i deulu ac yna ei feddyg.

“Doni’m isio hitio 50 a bod yn yr un cae am 30 o flynyddoedd arall”.

“Neshi benderfynu oedd angen siarad efo rhywun, a neshi siarad efo mam a ddoth y blog allan efo meddwl

“Roedd o fatha rhyddhad!”

“Y step gyntaf ydi’r anoddaf, i chwilio am help, ond wedyn mae bob dim yn disgyn i’w lle mae ‘na help ar gael. 

"Fydda i hefo fo am byth. Ond dod i ddelio hefo fo, a gwybod sut i drin o, a sut i edrych ar ôl yn hun  - dyna di'r peth pwysicaf”.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.