Newyddion S4C

Dros 50 o fudwyr wedi boddi mewn llongddrylliad yn ne'r Eidal

26/02/2023
llong

Mae dros 50 o fudwyr wedi boddi ar ôl i'w cwch fynd i drafferthion yn y môr oddi ar arfordir de'r Eidal fore dydd Sul.

Yn ôl Croes Goch yr Eidal, roedd eu gwirfoddolwyr yn achub y rhai oedd wedi goroesi o'r môr, ond yn ôl adroddiadau mae dros 50 o bobl gan gynnwys baban wedi boddi yn y digwyddiad ger Steccato di Cutro.

Dywedodd asiantaeth Vigili del Fuoco, Gwasanaeth Tân ag Achub yr Eidal fod hyd at 120 o bobl yn y cwch cyn mynd i drafferthion mewn môr garw.

Hyd yma mae oddeutu 80 o bobl wedi eu hachub gyda 58 o gyrff wedi eu darganfod.

Nid oes cadarnhad o ble yr oedd y cwch wedi teithio ond mae mudwyr yn aml yn ceisio croesi'r môr o'r Aifft neu Dwrci i'r rhan yma o'r Eidal.

Mae prif weinidog yr Eidal, Giorgia Meloni wedi anfon ei chydymdeimlad dwysaf i'r rhai sydd wedi eu heffeithio, gan ychwanegu y bydd ei llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei grym i geisio atal y rhai sydd yn elwa o fasnachu mewn pobl.

Yn ôl grwpiau monitro, mae mwy nag 20,000 o bobl wedi marw neu wedi mynd ar goll yng nghanol Môr y Canoldir ers 2014.

Dywedodd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula van der Leyen, ei bod wedi ei “thristau’n fawr” gan y digwyddiad, gan ychwanegu bod “colli bywyd mudwyr diniwed yn drasiedi”. Dywedodd ei bod yn hanfodol i "ddyblu ein hymdrechion" i wneud cynnydd ar ddiwygio rheolau lloches yr UE i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ymwneud â mudo i Ewrop.

Mae’r Pab Ffransis wedi dweud ei fod yn gweddïo dros y meirw, y coll a’r rhai a oroesodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.