
'Profiad hollol anhygoel' ymwelydd o Ganada ar ôl camgymryd Cymru am Loegr
'Profiad hollol anhygoel' ymwelydd o Ganada ar ôl camgymryd Cymru am Loegr

Fe wnaeth camgymeriad wrth greu fideo TikTok am botel dŵr poeth arwain at daith annisgwyl i Pavlina Sudrich.
Fe wnaeth Pavlina, sydd o Yukon yng Nghanada, godi gwrychyn sawl un o Gymru wedi iddi ddweud fod Cymru'n rhan o Loegr.
Yn dilyn y camgymeriad, fe wnaeth Pavlina greu fideo i'w 193,000 o ddilynwyr ar TikTok yn ymddiheuro i Gymru.
Yn sgil y fideo, cafodd Pavlina wahoddiad arbennig gan y Prif Weinidog Mark Drakeford i ymweld â Chymru i weld beth sydd yn gwneud y wlad yn unigryw.

Ar ôl treulio rhai dyddiau yn teithio hanner ffordd o gwmpas y byd, mae Pavlina wedi disgrifio ei thaith i Gymru fel "profiad hollol anhygoel."
"Mae Cymru wedi mynd tu hwnt i fy nisgwyliadau yn llwyr," meddai.
"Mae wedi gadael dylanwad mawr arnaf yn sgil pa mor garedig, agored a chroesawgar oedd pobl."
Treuliodd Pavlina 10 diwrnod yn teithio i bob cwr o Gymru, gan deithio o Gaerdydd i Wrecsam draw i Ynys Môn a nôl lawr i Sir Benfro.
'Peth gorau am Gymru yw'r Cymry'
Cafodd y cyfle i gwrdd â Llywydd y Senedd, Elin Jones A.S, a chyn Archesgob Caergrawnt, Rowan Williams, wrth ymweld â'r Senedd.
Roedd taith Pavlina yn cynnwys llu o weithgareddau yn dangos y gorau sydd gan Gymru i'w gynnig gan gynnwys dringo Pen-y-Fan, ymwela â Chastell Conwy a mynd i gêm Wrecsam.

Ond yn ôl Pavlina, y peth gorau am Gymru oedd y Cymry eu hunain.
"Os oedd rhaid i mi ddweud beth oedd fy hoff ran o'r daith, y peth mwyaf anhygoel am Gymru, byddai rhaid i mi ddweud oedd y byrddau bwyd.
"Y byrddau bwyd lle cawsom ein gwahodd i eistedd a rhannu pryd o gawl gyda theuluoedd gwahanol a chlywed pam eu bod yn caru eu gwlad.
"O Lanbedr i Grucywel mae'n lle anhygoel ac roedd yn sbesial iawn i gysylltu gyda chymaint o bobl."

Wedi i Pavlina wynebu cryn feirniadaeth am gamgymryd Cymru am Loegr, mae nawr yn teimlo ei bod yn deall y gwahaniaeth rhwng y ddwy wlad.
"Mae yna wahaniaeth a balchder sydd yn deilio o Gymru yr oedd pobl yn glir iawn yn cyfathrebu i fi.
"Ond fe wnaethon nhw wneud yn y ffordd fwyaf caredig.
"A'r ffordd fwyaf amlwg cafodd y gwahaniaeth ei fynegi oedd trwy'r iaith."
Cafodd Pavlina gyfle i ddysgu tipyn bach o Gymraeg ar hyd ei thaith.
"Mae 'bendigedig' yn air byddaf yn wastad yn cysylltu gyda fy mlas cyntaf o gawl.
"Rydw i wedi dod nôl adref gyda llyfr 'Cymraeg i ddechreuwyr' ac rydw i'n bwrw iddi yn edrych trwy'r elfennau unigryw o'r iaith Gymraeg."