Calon o gennin pedr yn ymddangos yng Nghastell Caerdydd

Mae calon wedi ei chreu o gennin pedr wedi ymddangos yng nghastell Caerdydd.
Mae'r gosodwaith wedi’i wneud o 12,000 o gennin pedr a’r nod yw hybu diwydiant bwyd Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru sydd wedi comisiynu'r darn o gelf eu bod nhw'n gobeithio annog y Cymry i rannu eu balchder a'u hangerdd ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths ei fod wedi ei greu yn arbennig i dynnu sylw at yr ymgyrch #CaruCymruCaruBlas cyn y dathliadau yr wythnos nesaf.
"Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle gwych inni ddathlu’n pobl, ein treftadaeth, ein diwylliant ac, wrth gwrs, ein cynhyrchwyr bwyd a diod o ansawdd,” meddai.
“Dyna’r hyn mae'r ymgyrch #CaruCymruCaruBlas yn ei ategu.”
‘Braint’
Bydd y galon cennin pedr i'w gweld yng Nghastell Caerdydd rhwng dydd Iau, 23 Chwefror a dydd Gwener, 3 Mawrth.
Rhoddwyd y cennin pedr gan frand cynnyrch ffres Blas y Tir o Sir Benfro.
Dywedodd Huw Thomas, Prif Swyddog Gweithredol cwmni Blas y Tir, nad oedd “dim byd gwell na chennin Pedr o Gymru i ddangos ein bod yn 'Gymry balch'”.
“Mae'n fraint gweld ein cennin Pedr, un o arwyddluniau cenedlaethol Cymru, yn cael eu harddangos â balchder yng Nghastell Caerdydd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.
“Gobeithio bydd ymwelwyr â'r Castell yn mwynhau'r arddangosfa hyfryd hon gymaint â ni."