Newyddion S4C

Drenewydd v Fflint

Rhagflas o ddwy gêm y Cymru Premier JD nos Wener

Sgorio 24/02/2023

Mae’r gynghrair wedi ei hollti’n ddwy ac mae clybiau’r Chwech Uchaf yn cystadlu am lefydd yn Ewrop, tra bod timau’r Chwech Isaf yn brwydro i osgoi’r cwymp.

CHWECH ISAF

Airbus UK (12fed) v Aberystwyth (11eg) | Nos Wener – 19:45

Digwyddodd yr anochel nos Wener diwethaf wrth i Airbus gadarnhau eu lle yn y ddau safle isaf gan sicrhau eu cwymp yn ôl i Gynghrair y Gogledd.

Ers ffurfio’r 12 Disglair does neb erioed wedi syrthio o’r uwch gynghrair mor gynnar â mis Chwefror, ond ar ôl colli 23 o’u 24 gêm gynghrair y tymor yma does dim gobaith ar ôl iAirbus.

Aberystwyth sy’n cadw cwmni i Airbus yn y ddau safle isaf, ac mae’r Gwyrdd a’r Duon mewn perygl gwirioneddol o syrthio o’r uwch gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes.

Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd) a bydd Anthony Williams yn awyddus i beidio bod y rheolwr cyntaf i yrru’r tîm o Geredigion i’r ail haen.

Dyw Aberystwyth heb gadw llechen lân yn y gynghrair y tymor yma, ac ar ôl ennill dim ond un o’u 10 gêm ddiwethaf mae’r clwb yn dechrau’r penwythnos un pwynt y tu ôl i Pontypridd a diogelwch y 10fed safle.

Mae Aberystwyth wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn erbyn Airbus UK gan gynnwys eu dwy buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn bechgyn Brychdyn yn rhan gynta’r tymor.

Record cynghrair diweddar:
Airbus UK: ❌❌❌❌❌

Aberystwyth: ➖❌✅❌➖

Caernarfon (7fed) v Y Fflint (9fed) | Nos Wener – 19:45

Mae Caernarfon wedi gorfod bodloni ar le yn y Chwech Isaf am y tro cyntaf ers eu dyrchafiad yn 2018, ond bydd y Cofis yn benderfynol o ddal gafael ar y 7fed safle er mwyn sicrhau lle yn y gemau ail gyfle i gystadlu am docyn i Ewrop ar ddiwedd y tymor.

Caernarfon yw’r unig dîm o’r Chwech Isaf i ennill eu dwy gêm ers yr hollt, ac roedd y Canerîs wedi ennill pum gêm yn olynol yn erbyn Y Fflint tan i’r Sidanwyr eu curo gyda gôl yn y funud olaf ar Gae-y-Castell ym mis Rhagfyr (Ffl 2-1 Cfon).

Dyw’r Fflint heb ennill dim un o’u wyth gêm gynghrair ddiwethaf oddi cartref (colli 7, cyfartal 1), tra bod Caernarfon wedi ennill pob un o’u gemau cartref yn erbyn clybiau’r Chwech Isaf yn rhan gynta’r tymor.

Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ✅✅❌✅❌

Y Fflint: ❌✅✅❌➖

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a bydd y gorau o gemau’r penwythnos i’w gweld ar S4C nos Lun am 9:35.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.