Newyddion S4C

Gwaith / Cartref yn dod yn wir wrth enwi ysgol newydd ym Mhontypridd

Ysgol Bro Taf

Fe all rhan o'r rhaglen Gwaith / Cartref ddod yn wir yn sgil cais i enwi ysgol newydd ym Mhontypridd.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cynnig galw'r ysgol newydd 3-16 oed yn Ysgol Bro Taf - yr un enw a'r ysgol ar y rhaglen S4C oedd wedi ei gosod yn yr ardal am y cyfresi cyntaf.

Mae'n un o dair ysgol newydd o fewn ardal y cyngor sy'n chwilio am enwau. Bydd ysgol newydd 3-16 oed yn Y Ddraenen Wen yn cael ei galw'n Ysgol Afon Wen ac ysgol Gymraeg yn Rhydyfelin yn cael ei galw'n Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf, os yw cynllun cabinet y cyngor yn cael ei wireddu.

Mae prifathrawon a byrddau llywodraethau'r ysgolion newydd, sydd yn cynnwys dwy ysgol uwchradd newydd ac ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, wedi cynnal pleidleisiau ymysg staff a disgyblion er mwyn dewis eu henwau. 

Ar gyfer yr ysgol uwchradd newydd ym Mhontypridd, Ysgol Bro Taf ddaeth i'r brig. 

Ar agor

Fe arhosodd disgyblion Bro Taf yn y Rhondda am bum cyfres, cyn symud i Gwm Rhymni am weddill penodau'r rhaglen. 

Nid oes cadarnhad eto ai Bro Taf fydd yr enw terfynol, gyda disgwyl i'r cais ar gyfer yr enw fynd o flaen cabinet y cyngor ar 28 Chwefror. 

Mae disgwyl y bydd yr ysgolion newydd yn agor ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd yn 2024. 

Gohebu ychwanegol gan y gwasanaeth newyddion democratiaeth leol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.