Newyddion S4C

Boris Johnson

Partygate: Yr Uchel Lys i glywed cam cyntaf yr her yn erbyn Heddlu'r Met

NS4C 22/02/2023

Bydd yr Uchel Lys yn clywed cam cyntaf yr her yn erbyn Heddlu'r Met mewn cyswllt â partygate fore Mercher.

Mae'n ymwneud ag ymchwiliad y llu i bresenoldeb y cyn brif weinidog Boris Johnson mewn partïon yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo

Cafodd Mr Johnson ddirwy yn sgil parti pen-blwydd yn ystafell y cabinet fis Mehefin 2020, ond ni wynebodd unrhyw achos pellach i ddigwyddiadau yn Rhif Deg a Whitehall a oedd yn rhan o ymchwiliad Operation Hillman gan Heddlu'r Met. 

Yn ôl adroddiad gan yr uwch was sifil Sue Gray, a gafodd ei gyhoeddi fis Gorffennaf 2022, fe gynhaliodd Boris Johnson barti gadael ar gyfer y pennaeth cyfathrebu ar y pryd Lee Cain ar 13 Tachwedd 2020, ddyddiau ar ôl cyhoeddi fod yr ail gyfnod clo yn Lloegr wedi dechrau. 

Mewn  lluniau a gafodd eu cyhoeddi yn ei hadroddiad, mae'n  ymddangos fod Mr Johnson yn codi gwydryn, gyda chyd-weithwyr o'i amgylch a photel o win.  

Fe fu'n siarad hefyd mewn parti gadael ar gyfer dau swyddog o Rif Deg ar 17 Rhagfyr 2020, yng nghwmni rhyw 20 o bobol, gydag alcohol yn bresennol, yn ôl Ms Gray 

Mae'r grŵp ymgyrchu ym maes y gyfraith Good Law Project (GLP) a chyn ddirprwy gomisiynydd cynorthwyol y llu, yr Arglwydd Paddick wedi dechrau her gyfreithiol yn erbyn Heddlu'r Met yn sgil ymchwiliad y llu i'r hyn sy'n cael ei adnabod fel partygate. 

Yn ôl y GLP, fe fethodd y Met ag anfon holiaduron at Mr Johnson, ac yn ôl yr ymgyrchwyr, does dim esboniad pam neu sut y daeth Heddlu'r Met i'r casgliad fod ei bresneoldeb mewn digwyddiadau eraill yn gyfreithlon 

Mewn gwrandawiad am 10.30 fore Mercher, bydd y GLP yn gofyn i Mr Ustus Swift am yr hawl i ofyn am adolygiad barnwrol i'r modd y deliodd y Met â'r ymchwiliad. 

Cafodd 83 o bobl ddirwy am fynychu digwyddiadau yn Downing Street a Whitehall.

Dywedodd Cyfarwyddwr GLPO, Jo Maugham: Dyden ni ddim yn deall - a dyw'r llu ddim yn fodlon datgelu - pan na chafodd Boris Johnson ddirwy am fynd i bartïon tra chafodd gweision sifil ddirwy am fynychu'r un digwyddiadau. 

“Mae'n ymddangos fel trinaeth arbennig ar gyfer y pwerus,” meddai.  

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.