Cau McDonalds Abertawe ar ôl i rywun daflu broga i mewn i’r bwyty

Roedd yn rhaid cau McDonalds parc siopa Morfa Abertawe ar ôl i rywun daflu broga i mewn i’r adeilad ddydd Mawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r bwyty wedi i grŵp o fechgyn daflu broga byw i’r adeilad tra roedd teuluoedd yn bwyta yno.
Roedd yn rhaid cau’r bwyty.
Dywedodd yr heddlu yn Abertawe eu bod yn y broses o adnabod y bechgyn a bydd camau priodol yn cael eu cymryd.