Ryan Manning i adael Abertawe

Mae prif hyfforddwr CPD Abertawe, Russell Martin wedi cadarnhau y bydd Ryan Manning yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor.
Ers ymuno â'r clwb yn 2020 mae'r amddiffynnwr wedi sgorio pum gôl mewn 95 o gemau.
Manning yw un o brif chwaraewyr Yr Elyrch y tymor hwn, ond ni fydd yn adnewyddu ei gytundeb.
Fe wrthododd cynnig ar gytundeb newydd ym mis Rhagfyr, ac mae Martin yn dweud bod y chwilio wedi dechrau i ddarganfod chwaraewr newydd yn ei le.
"Dwi'n caru Ryan, ac mae e'n caru bod yma, ond rydym wedi gadael i'r cytundeb mynd i'w blwyddyn olaf, a heb ddelio gyda'r sefyllfa," meddai.
"Mae ganddo'r hawl i fynd a gweld pa opsiynau sydd yna iddo yn yr haf. Rydym yn chwilio am opsiwn arall ar gyfer tymor nesaf yn barod, mae rhaid i ni fod yn barod."