
Parc sglefrio yn agor yn Abertawe wedi blynyddoedd o ddadlau
Mae parc sglefrio wedi agor yn Abertawe wedi blynyddoedd o ddadlau.
Roedd Parc Sglefrio'r Mwmbwls wedi wynebu gwrthwynebiad gan rai am ei fod yn agos at ffordd brysur, ac ar sail lleoliad y mynediad at y safle a diffyg toiledau.
Bu’n rhaid i Gyngor Abertawe ail-ddechrau ar y broses o drosglwyddo’r tir i’r cyngor cymunedol ar ôl cael eu herio gan gynrychiolydd cyfreithiol ar ran grŵp o drigolion y ddinas.
Golygydd y cwbl bod pum mlynedd wedi mynd heibio ers i’r cynllun ar gyfer y parc sglefrio gael ei gynnig yn wreiddiol, a £461,800 wedi ei wario gan Gyngor Cymunedol y Mwmbwls.
Bydd digwyddiad swyddogol er mwyn agor y parc sglefrio yn cael ei gynnal yn yr haf ond roedd disgwyl i sglefrwyr gael dechrau ei ddefnyddio dros y penwythnos.

Dywedodd Ian Jennings o Maverick Skateparks a fu’n gyfrifol am adeiladu'r parc sglefrio bod yr oedi wedi gwneud y gwaith yn fwy heriol.“Roedden ni wedi cynllunio yn wreiddiol ar gyfer adeiladu yn yr haf,”meddai gan nodi nad oedd gwaith wedi gallu dechrau nes mis Medi'r llynedd.
“Mae’n amhosib tywallt concrid dan y rhewbwynt. Rydan ni wedi goddef tymheredd o dan ddeg gradd, glaw mawr, heulwen – bob tymor.”
Fe ddioddefodd anaf sglefrio ei hun yn ystod y gwaith adeiladu gan olygu fod rhaid iddo gael llawdriniaeth ac nad oedd yn gallu gweithio ar y safle am bedair wythnos.
“Mae nifer o’n hadeiladwyr ni yn sglefrfyrddio eu hunain felly mae gyda nhw ddealltwriaeth dda o sut mae parc fel hyn yn gweithio,” meddai.

Dywedodd Dan Evans sy’n byw gerllaw bod y parc wedi gwneud argraff arno a’i fod yn disgwyl i’w feibion dreulio cryn amser yno.
“Maen nhw wedi bod yn ein llusgo ni i barciau sglefrio eraill ar draws Cymru,” meddai. “Dyma’r peth cyntaf fel hyn yn Abertawe ac mae o ar riniog y drws.”
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Cymunedol y Mwmbwls eu bod nhw’n falch bod y parc sglefrio “gwych” wedi ei gwblhau o’r diwedd.
Llun: Parc Sglefrio y Mwmbwls gan Maverick Skateparks