Gwydr Rhufeinig prin yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Ceredigion

Mae darnau o wydr Rhufeinig prin yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Ceredigion.
Cafodd y darnau eu darganfod ar safle fila Eingl-Rufeinig yn Abermagwr, yr unig fila Rufeinig hysbys yng Ngheredigion.
Mae'r safle, a gafodd ei ddarganfod yn 2006, hefyd yn y fila Rufeinig fwyaf anghysbell yng Nghymru.
Y gwydr Rhufeinig yw'r darganfyddiad diweddaraf o gloddio'r fila, ac mae ar gael i'w weld yng Ngheredigion wedi i'r amgueddfa dderbyn cyllid grant gwerth £1,000 gan y Gymdeithas Archaeoleg Rufeinig.
Mae gwydr Rhufeinig yn hynod o brin yn y DU; dim ond un bicer sydd wedi'i arddangos yn barhaol yn yr Amgueddfa Brydeinig.
Yn ôl yr Athro Barry Burnham o Brifysgol Dewi Sant, mae ei darganfyddiad yng ngorllewin Cymru yn "bwysicach fyth oherwydd ei fod yn llawer uwch na'r ystod gyffredinol o ddeunydd gwydr a geir yn unrhyw le yn y dywysogaeth.
"Mae hyn yn codi cwestiynau diddorol ynglŷn â sut y daeth i fod yma, pwy oedd yn berchen arno, a’r hyn y mae’n ei ddynodi o ran statws cymdeithasol a chysylltiadau economaidd.”
Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion, ei bod yn "hynod o ddiolchgar" i gael arddangos y gwydr.
"“Pan oeddwn i yn yr ysgol fe’n dysgwyd nad oedd gan y Rhufeiniaid bresenoldeb sylweddol yng Ngorllewin Cymru, ond mae canlyniadau cloddio lleol wedi gwyrdroi’r dybiaeth honno.
"Mae'r gwrthrych rhyfeddol hwn yn dangos bod y fila yn Abermagwr yn gartref i Rufeiniaid cymharol gyfoethog a oedd yn mwynhau'r pethau da mewn bywyd."