Newyddion S4C

Aduniad emosiynol i ddyn tân o Gymru ar ôl cynorthwyo yn naeargryn Twrci

17/02/2023
Aduniad

Cafodd diffoddwr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru aduniad emosiynol gyda’i deulu ddydd Iau, ar ôl dychwelyd adref o ardal y daeargryn dinistriol yn Nhwrci. 

Cafodd Phil Irving, sy'n dad i ddau, ei aduno gyda'i fab wyth oed a'i ferch 14 oed ar ôl trefnu iddynt gael eu tynnu allan o’r dosbarth er mwyn roi gwybod iddynt ei fod adref, yng nghwmni ei wraig Lianne.

Mae Phil, sy'n 46 oed, yn un o 77 o arbenigwyr chwilio ac achub o 14 o wasanaethau tân ac achub ledled y DU a anfonwyd i Dwrci gyda thîm ISAR y DU trwy’r Swyddfa Dramor.

Image
Phil Irving

Roedd Phil, sy'n Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Hwlffordd, wedi treulio'r wythnos ddiwethaf yn achub pobl a oedd yn sownd yn rwbel adeiladau yn dilyn y daeargryn.

Mae nifer y marwolaethau wedi cynyddu i dros 40,000 yn Nhwrci a Syria, ac fe gafodd Phil groeso cynnes gan ei blant yn eu hysgol yn Hwlffordd, Sir Benfro.

Caeth am 120 awr

Tra'r oedd yn Nhwrci, fe lwyddodd Phil a’i gyd-weithwyr yn nhîm ISAR y DU i achub bywydau dyn a menyw oedd wedi bod yn gaeth am 120 awr mewn adeilad aml-lawr a oedd wedi dymchwel.

Mae Phil wedi bod yn ddiffoddwr tân ers bron 24 mlynedd, ac mae wedi bod yn gwirfoddoli gyda thîm ISAR y DU ers 17 mlynedd, gan gynnig cymorth wedi'r daeargrynfeydd yn Indonesia yn 2009 a Haiti yn 2010.

Dywedodd Phil: “Rwy’n meddwl y dylai pawb yn y wlad fod yn falch bod Llywodraeth y DU yn ariannu adnoddau megis ISAR y DU a Thîm Meddygol Argyfwng y DU, sy’n barod i gamu i'r adwy ac achub bywydau yn sgil trychineb dyngarol tebyg i'r hyn yr ydym yn ei weld yn Nhwrci a Syria ar hyn o bryd.”

Cymorth pellach

Wrth i’r sefyllfa ar y ddaear symud i gyfnod newydd, o achub i adfer, mae’r DU wedi ymrwymo pecyn cymorth pellach i fynd i’r afael ag anghenion dyngarol brys yn Nhwrci a Syria.

Dywedodd Gweinidog y DU dros Ddatblygu, Andrew Mitchell: “Mae Llywodraeth y DU yn falch bod diffoddwyr tân a meddygon dewr Cymru wedi bod wrth galon ein hymdrechion i helpu pobl Twrci pan fo'r angen fwyaf.

Mae tîm ISAR y DU a Thîm Meddygol Brys y DU, fel ei gilydd, yn cronni arbenigedd sy’n arwain y byd o bob rhan o Brydain i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth ymateb i drychinebau dyngarol ledled y byd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.