Newyddion S4C

yr A55

Gwaith ffordd sydd wedi achosi tair blynedd o oedi ar yr A55 yn dod i ben

NS4C 17/02/2023

Mae cadarnhad wedi dod ynglŷn â pha bryd bydd gwaith ffordd ar yr A55, sydd wedi achosi tair blynedd o oedi i yrwyr, yn dod i ben.

Fe gychwynnodd y gwaith i uwchraddio 2.1 cilomedr o’r ffordd rhwng Abergwyngregyn a Thai’r Meibion yng Ngwanwyn 2020, gyda chamerâu cyflymder a chyfyngiadau cyflymder o 40 milltir yr awr yn cael eu rhoi mewn lle. 

Roedd y gwelliannau yn cael ei wneud er mwyn codi safon y briffordd a lleihau’r risg o lifogydd yn y dyfodol.

Yn wreiddiol, roedd y gwaith i fod i gael ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2022, ond fe gafodd y dyddiad ei wthio yn ôl i dymor yr Hydref 2022, cyn cael ei ohirio unwaith eto.

Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, bellach wedi cadarnhau y bydd y cyfyngiadau cyflymder i draffig sy’n symud tua’r gorllewin yn dod i ben o fewn y bythefnos nesaf.

Yna, bydd cyfyngiadau cyflymder i draffig sy’n teithio tua’r dwyrain yn dod i ben yng nghanol fis Mawrth, ar ôl i’r gwaith cael ei gwblhau.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.