Newyddion S4C

Undebau athrawon a gweithwyr ambiwlans i streicio ar ôl gwrthod cynnig tâl diweddaraf

15/02/2023
streic athrawon

Bydd aelodau undebau athrawon a gweithwyr ambiwlans yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i streicio ar ôl gwrthod cynnig tâl diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Bydd athrawon yn cynnal streic ar 2 Mawrth. Cafodd diwrnod o weithredu ei ohirio gan aelodau o’r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) ar 14 Chwefror ar ôl i’r Llywodraeth gyflwyno cynnig newydd wythnos ddiwethaf.

Roedd y cynnig cyflog diweddaraf yn ychwanegu 1.5% ar ben y codiad cyflog o 5% am eleni, ac 1.5% yn ychwanegol fel taliad un tro.

Ond yn dilyn cyfarfod nos Fawrth, mae aelodau’r undeb wedi penderfynu gwrthod y cynnig.

Dywedodd Cyd-ysgrifennydd Cyffredinol yr NEU, Kevin Courtney: “Fe benderfynodd yr Undeb i ohirio’r streic oedd wedi ei chynllunio ar gyfer 14 Chwefror wythnos diwethaf gydag ewyllys da, wrth i ni brosesu holl fanylion cynllun Jeremy Miles a chasglu ymateb ein haelodau yng Nghymru.

"Maen nhw wedi pwysleisio nad ydi’r cynnig o 1.5% ychwanegol i dâl athrawon, yn ogystal â swm un-tro o 1.5% yn ddigon da, ac mae’n methu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, chwyddiant ar dwf, na’r dirywiad i’n dal ers 2010.

“Mae gennym ni fandad clir i gynnal streic, sydd wedi ei ail-threfnu ar gyfer 2 Mawrth mewn ysgolion ar draws Gymru. Rydym yn ddiolchgar i’r Gweinidog am ei barodrwydd i gynnal trafodaethau, sydd yn wrthgyferbyniol i’r Llywodraeth yn San Steffan.”

Dywedodd Ysgrifennydd NEU Cymru, David Evans: “Mae NEU Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i ganfod datrysiad i’r anghydfod yma ar ran athrawon a staff ar draws Cymru. Mae ein gofynion yn glir, ac mi fyddwn ni’n cwrdd â’r Gweinidog mor aml ac sydd angen er mwyn ceisio sicrhau cytundeb sydd yn datrys pob elfen o’r anghydfod.”

Wrth ymateb i'r datblygiadau diweddaraf, dywedodd gweinidog addysg cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones AS :“Mae'r perfformiad theatrig yma yn ymwneud â thal athrawon yn parhau. Mae'n dal yn ffaith bod y Llywodraeth Lafur yn methu â delio â phwysau gwaith athrawon nac yn medru gweithredu cynllun i ddenu a chadw athrawon mewn ysgolion." 

Gweithwyr ambiwlans 

Dywedodd Unite fod ei aelodau yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi gwrthod cynnig tebyg o 92% ar y nifer a bleidleisiodd o 70%.

Bydd aelodau Unite yn Ambiwlans Cymru nawr yn streicio ar Chwefror 20, 21 a 22.

Mae Unite wedi galw am drafodaethau pellach i ddatrys yr anghydfod.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham: “Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle clir i atal y streiciau sydd i ddod.

“Yn lle’r ystum gwleidyddol y mae wedi ymwneud ag ef, nawr yw’r amser i fynd rownd y bwrdd a gwella’r cynnig.

“Mae aelodau Unite wedi siarad – nid yw’r cynnig presennol yn dderbyniol. Mae'r gweithwyr hyn yn byw law yn llaw. Gweithredwch nawr cyn i’r streiciau waethygu.”

Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.