Newyddion S4C

Eluned Morgan yn annog pobl i gymryd y brechlyn "o ddifrif"

Newyddion S4C 17/05/2021

Eluned Morgan yn annog pobl i gymryd y brechlyn "o ddifrif"

Mae'r Gweinidog Iechyd newydd, Eluned Morgan, wedi annog pobl i gael eu brechu ac i barhau i gymryd y pandemig "o ddifrif".

Yn ei chyfweliad cyntaf fel Gweinidog Iechyd, dywedodd mai brechu byddai'r ffordd orau o sicrhau diogelwch yn erbyn yr amrywiolyn newydd.  

Daw hyn yn sgil y newyddion fod dros 2m o bobl wedi derbyn dos cyntaf o'r brechlyn Covid-19 yng Nghymru.

Ac er bod rhagor o gyfyngiadau coronafeirws wedi llacio ddydd Llun, mae'r llywodraeth wedi rhybuddio bod y wlad yn parhau i wynebu heriau yn sgil y pandemig, gan gynnwys yr amrywiolyn Indiaidd. 

"I ni'n gwybod mai dyma'r arf orau sydd gyda ni, i sicrhau fod pobol yn cael y brechlyn dyna'r ffordd orau i gael diogelwch oddi wrth yr amrywiolyn newydd yma," dywedodd Eluned Morgan wrth raglen Newyddion S4C. 

"'Da ni ddim yn gwybod pa amrywiolion sydd yn dod yn y dyfodol, ond am y tro fydden i'n awgrymu bod pob un sy'n cael gwahoddiad yn cymryd y gwahoddiadau yna i fyny ac i bod nhw'n diogelu i hunain a'r pobol o'u hamgylch nhw.

"'Da ni ddim rili wedi cael y diogelwch llawn tan bo ni'n cael yr ail dos, a tan hynny mae'n bwysig bo pobol yn sicrhau bo nhw'n cadw pellter, bo nhw'n golchi dwylo, bo nhw'n cymryd y feirws o ddifri o hyd.

"Yn arbennig dwi'n meddwl pobol ifanc sydd yn fwy tebygol o gymysgu, ma'n rhaid i nhw gymryd hwn o ddifrif, achos dyna ble dwi'n poeni fydd yr ymlediad falle yn dod o."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.