Newyddion S4C

Joe Allen yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

07/02/2023

Joe Allen yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

Mae Joe Allen wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol, yn 32 oed.

Mae'r chwaraewr canol cae yn ymddeol wedi ymgyrch Cymru yng Nghwpan y byd, sy'n golygu iddo chwarae ei gêm olaf dros ei wlad yn erbyn Lloegr yn y bencampwriaeth.

Daw'r cyhoeddiad ychydig wythnosau cyn i Gymru ddechrau ei hymgyrch ragbrofol ar gyfer Ewro 2024.

Mae'r chwaraewr canol cae wedi chwarae 74 o gemau dros Gymru, gan sgorio dwy o goliau.

Dywedodd Allen mai'r prif reswm dros ei ymddeoliad yw oherwydd anafiadau.

"Rwyf wedi bod yn hynod o ffodus yn fy mywyd i gael chwarae dros Gymru. Mae’r daith wedi bod yn un anhygoel ac rwyf wedi ei rhannu â phobl arbennig iawn: fy nheulu, cyd-chwaraewyr, staff a chefnogwyr; pob un wedi cyfrannu i’w gwneud yn daith eithriadol.

"Rwyf yn ddiolchgar i bob un ohonoch. Roedd y gefnogaeth gan Gymry oll yn ysbrydoliaeth a roddodd falchder pur i mi bob tro wrth wisgo'r crys. Bu cymaint o brofiadau bythgofiadwy. Yn anffodus, oherwydd anafiadau daeth diwedd cyfnod ac mae'n amser rhoi cyfle i'r genhedlaeth nesaf fwrw 'mlaen.

"Mae dyfodol pêl droed Cymru yn ddisglair."

Arberth i Abertawe

Yn gyn ddisgybl Ysgol Gynardd Arberth ac Ysgol Gyfun Y Preseli yng Nghrymych, chwaraeodd Joe Allen ei gêm gyntaf dros Gymru ym mis Mai 2009 pan oedd yn 20 oed.

Fe ddaeth ymlaen i'r cae fel eilydd i Jack Collison yn erbyn Estonia ar Barc y Scarlets, wrth i Gymru ennill 1-0.

Image
Joe Allen
Joe Allen yn ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn 2009. Llun: Asiantaeth Huw Evans.

Ychydig dros ddwy flynedd yn ddiweddarach, dechreuodd Allen dros Gymru am y tro cyntaf mewn gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2012 yn erbyn y Swistir yn Stadiwm Swansea.com

Yn yr un flwyddyn enillodd chwaraewr y flwyddyn i Gymru, yr unig dro iddo gipio'r teitl hwnnw.

Bu Allen yn un o brif chwaraewyr y garfan yn ystod y blynyddoedd canlynol, a chafodd y fraint o arwain ei wlad yn gapten, yn absenoldeb Ashley Williams.

Ohrerwydd anaf Ashley Williams, Joe Allen oedd yn gapten yn y gêm ragbrofol yn erbyn Yr Iseldiroedd ar gyfer Ewro 2016

Atgofion melys Ffrainc

Mae'n bur debyg mai un o hoff atgofion Allen oedd pencampwriaeth fythgofiadwy Cymru yn Ewro 2016.

Mae cefnogwyr Y Wal Goch yn dal i hel atgofion am daith hanesyddol Cymru wrth i Chris Coleman a'i garfan gyrraedd rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth, gan golli i enillwyr y bencampwriaeth, Portiwgal 2-0.

Yn ystod y daith i'r rownd gyn-derfynol, curodd Cymru Slofacia, Rwsia, Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg, gan orffen ar frig y grŵp uwchben Lloegr, ac Allen yn chwarae pob un gêm.

Image
Joe Allen
Chwaraeodd Allen ymhob un o gemau Cymru yn Ewro 2016.Llun: Asiantaeth Huw Evans.

Roedd ei berfformiadau yn gampus iawn a chafodd ei enwi yn nhîm y gystadleuaeth gydag Aaron Ramsey.

Sgoriodd Allen ei unig goliau dros Gymru yn erbyn Moldofa ac Awstria yn 2016, ddwy gêm yn olynol.

Unwaith eto, roedd Allen yn ganolbwynt i ganol cae Cymru dros y blynyddoedd nesaf, a chafodd ei enwi yng ngharfan Rob Page ar gyfer Ewro 2020.

Ar ôl blynyddoedd a blynyddoedd o aros, cyrhaeddodd Cymru Gwpan y Byd yn 2022 am y tro cyntaf ers 1958 , ac Allen yn chwarae rhan hollbwysig yn yr ymgyrch honno.

Bydd ymddeoliad Allen yn gadael bwlch yng nghanol y cae, ac er bydd y bwlch hwnnw yn cael ei lenwi, bydd colled y Welsh Pirlo yn enfawr i'r Wal Goch.

O'r foment gyntaf iddo gamu ar y cae yn 2009 o flaen torf o 5,000 ym Mharc y Scarlets, i'w eiliadau olaf o flaen mur o goch yng Nghwpan y Byd, bydd Allen yn edrych yn ôl ar ei daith gyda'i wlad â gwên fawr ar ei wyneb. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.