Newyddion S4C

Plismona protestiadau Just Stop Oil wedi costio £7.5m i Heddlu'r Met

Just Stop Oil

Roedd plismona protestiadau Just Stop Oil wedi costio £7.5 miliwn i drethdalwyr mewn cyfnod o naw wythnos, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae data sydd wedi dod i law asiantaeth newyddion PA yn dangos fod y gost ddyddiol o blismona'r protestiadau wedi cyrraedd £630,000 yr hydref diwethaf.

Dywedodd Heddlu'r Met y gallai’r arian “fod wedi cael ei ddefnyddio’n well” i fynd i’r afael â “throseddau â blaenoriaeth” mewn cymunedau lleol.

Dywed Just Stop Oil fod y gost yn llawer iawn llai na'r difrod amgylcheddol sydd yn cael ei greu gan danwydd ffosil.

Achosodd Just Stop Oil aflonyddwch sylweddol ar y pryd gyda chefnogwyr yn dringo pontydd traffordd ar yr M25 a Phont QEII yn Dartford, Caint, yn ogystal â rhwystro prif ffyrdd yn Llundain.

Fe wnaethant hefyd chwistrellu paent oren dros wahanol adeiladau ym mhrifddinas Lloegr, a chynnal protestiadau yn yr Oriel Genedlaethol, Madame Tussauds a Harrods.

Newidiodd rhai gweithredwyr eu tactegau, gan gynnal gorymdeithiau araf ar hyd prif ffyrdd Llundain a dinasoedd eraill i osgoi cael eu harestio am rwystro'r traffig ar y ffyrdd.

Mae’r gost o £7.5 miliwn i Heddlu Llundain – a ddatgelwyd mewn ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth – yn cwmpasu cyfanswm o naw wythnos o 1 Hydref i 14 Tachwedd, ac o 28 Tachwedd i 14 Rhagfyr.

Mae'n cynnwys cost swyddogion a staff yr oedd bwriad iddynt fod ar ddyletswydd, biliau goramser a chostau defnyddio cerbydau.

Roedd mwy na 13,600 o sifftiau swyddogion heddlu yn ymwneud ag ymateb i brotestiadau Just Stop Oil dros y cyfnod yma.

Mae Just Stop Oil yn galw ar Lywodraeth y DU ddod â phob trwydded a chaniatâd newydd ar gyfer archwilio a chynhyrchu tanwydd ffosil yn y DU i ben.

Disgrifiodd eu llefarydd Grahame Buss fod y gost o blismona gweithredoedd y grŵp fel un “cymesur” o ystyried y biliynau o bunnoedd sy’n cael eu gwario yn fyd-eang wrth “addasu i newid hinsawdd”.

Ychwanegodd: “Mae pobl eisoes yn marw oherwydd yr argyfwng hinsawdd. Mae'n fater difrifol iawn mewn gwirionedd.

“Ar y cyfan, mae’r costau o’i osgoi yn llawer llai na’r gost o’i anwybyddu."

“Ni yw'r larwm tân yn yr ystafell, y caneri yn y pwll glo.

“Pe bai’r Llywodraeth yn gwneud ei gwaith, ni fyddai’n rhaid i ni fod yno.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.