Siopau stryd fawr Debenhams wedi cau

Siopau stryd fawr Debenhams wedi cau
Ar ôl 200 mlynedd, mae pob un o siopau stryd fawr Debenhams wedi cau.
Erbyn dydd Sadwrn, Caerdydd ac Abertawe oedd yr unig ddwy gangen oedd ar ôl yng Nghymru, wedi i Boohoo brynu'r cwmni a newid i werthu ar-lein yn unig.
Mae’r siop wedi bod yn un o brif atyniadau llawer o drefi a dinasoedd Cymru dros y blynyddoedd, gyda nifer yn pryderu am yr effaith ar y stryd fawr.
Dywedodd Mared Jones, oedd yn gweithio yn y gangen yn Wrecsam: “Mae’n siom enfawr i weld Debenhams yn cau. Nes i ddechrau gyda Debenhams yn 2008 wrth i’r drysau agor ac mae o’n bechod bod nhw wedi cau. Nes i fwynhau gweithio yna a nes i neud lot o ffrindiau.”
Ym Mangor, mae’r golled yn cael ei theimlo hefyd. Ond mae gan y cyngor lleol gynllun posib i geisio denu gweithwyr a siopwyr nôl i’r ddinas.
Dywedodd Iwan Williams, Cyfarwyddwr Dinesig i Gyngor Dinas Bangor: “Mae yna drafodaethau ar sut i lenwi’r adeilad gwag sydd ar ôl yn y ddinas. Mae’r trafodaethau yn parhau rhwng Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ynglŷn â’r posibilrwydd o ddod a hwb iechyd llesiant yma i ganol Fangor. Ac mi fydd hynna yn dod a staff y Bwrdd Iechyd ganol y ddinas a chynyddu nifer yr ymwelwyr.”