Rob Page: Cymru wedi 'gadael ein cefnogwyr i lawr' yng Nghwpan y Byd
Mae prif hyfforddwr pêl-droed Cymru, Rob Page, wedi dweud ei fod yn "teimlo ein bod wedi gadael ein cefnogwyr i lawr".
Wrth siarad ar raglen Sgorio ar S4C, roedd Page yn adlewyrchu ar siwrnai Cymru yng Nghwpan y Byd 2022 - eu cyntaf ers 64 o flynyddoedd.
"Roedd yn anodd, dwi ddim am ddweud celwydd," meddai.
"Oherwydd gyda'r holl gynyddu momentwm, Neuadd Les Pendyrys, oedd yn sicr y peth iawn i'w wneud. Yma o Hyd. Roeddwn i'n meddwl, na wnaethon ni gwrdd â'r holl ddisgwyliad.
"Dwi'n teimlo fel y gwnaethom adael y cefnogwyr i lawr os dwi'n bod yn onest. Roedd hynny'n eithaf anodd ei gymryd."
“I felt we let the supporters down if I’m being honest"
— Sgorio ⚽️ (@sgorio) January 24, 2023
Rob Page sy'n trafod ei deimladau ar ôl Cwpan y Byd 2022 🎙️🏴
Cyfweliad arbennig gyda rheolwr Cymru: https://t.co/obVdgWIW9T
Ond mae Rob Page o'r farn bod angen canolbwyntio ar y dyfodol wrth symud ymlaen.
"Fel dwedais i, dyna bêl-droed, dyna fywyd. Mae'n rhaid i chi dorchi llewys a bwrw 'mlaen a sicrhau nad ydyn ni'n gadael i hynny ddigwydd eto am ba bynnag rheswm.
"Fel dwedais i, yn erbyn yr UDA, oedd y cyfle i chwarae yng Nghwpan y Byd ychydig yn frawychus a gormod i rai o'r chwaraewyr. Dwi ddim yn gwybod. Efallai ei fod yn ffactor, ond rydym wedi ymateb i hynny a gwnawn ni'n siŵr nad yw'n digwydd eto."
Mae Gareth Bale, capten Cymru, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o bêl-droed proffesiynol yn dilyn Cwpan y Byd, sy'n golygu y bydd angen capten newydd ar Gymru.
Bydd gorwelion y garfan a Rob Page nawr yn troi at gemau mis Mawrth er mwyn ceisio cyrraedd Euro 2024.