Newyddion S4C

Gweithwyr cwmni Amazon yn streicio am y tro cyntaf

25/01/2023
Gweithwyr Amazon

Mae rhai o weithwyr Amazon ym Mhrydain yn streicio am y tro cyntaf erioed mewn anghydfod ynglŷn â chyflogau. 

Fe bleidleisiodd gweithwyr o undeb y GMB o blaid cerdded allan o'r gwaith ddydd Mercher mewn protest am godiad cyflog.

Yn ôl yr undeb mae'r cynnig yn gyfystyr â 50 ceiniog yr awr.

Ond mae Amazon yn dweud mai dim ond canran fechan o'u gweithwyr sydd yn streicio a'u bod yn cynnig tâl cystadleuol. 

Dywedodd uwch-drefnydd y GMB, Stuart Richards: "Heddiw fe fydd gweithwyr Amazon yn Coventry yn creu hanes. Yn groes i'r disgwyl nhw yw'r gweithwyr Amazon cyntaf ym Mhrydain i fynd ar streic. Maen nhw'n herio un o gwmnïau mwyaf y byd i frwydro am safon byw digonol. Fe ddylen nhw fod yn falch iawn o'u hunain."

Ychwanegodd bod Amazon wedi anwybyddu pryderon y staff am chwe mis a bod yr undeb eisiau i'r cwmni rhoi codiad cyflog 'priodol' i'r gweithwyr.

Yn ôl Amazon dim ond 1% o'u staff sydd yn gweithio ym Mhrydain wnaeth bleidleisio, gan gynnwys y rhai oedd yn erbyn streicio. 

"Rydyn ni yn gwerthfawrogi'r gwaith gwych mae ein timau yn gwneud trwy'r flwyddyn ac yn falch i gynnig tâl cystadleuol sydd yn cychwyn ar isafswm o rhwng £10.50 a £11.45 yr awr, yn dibynnu ar y lleoliad. 

"Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 29%  yn yr isafswm tâl yr awr sydd yn cael ei dalu i weithwyr Amazon ers 2018."

Dywedodd y llefarydd hefyd bod yna fuddion eraill yn cael eu cynnig fel yswiriant iechyd a bywyd. 

Llun: Niall Carson/PA 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.