Newyddion S4C

Cynrhon ar gorff marw merch o Bowys yn 'o leiaf deuddydd oed'

24/01/2023
Kaylea Titford

Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys disgrifiadau brawychus

Mae llys wedi clywed bod cynrhon gafodd eu darganfod ar gorff marw merch 16 oed o Bowys "o leiaf deuddydd oed." 

Cafodd Kaylea Titford, a oedd yn anabl, ei darganfod yn farw mewn dillad a lliain gwely budr ac yn beryglus o ordew yn ei thŷ yn Y Drenewydd ym mis Hydref 2020. 

Roedd Kaylea yn pwyso bron i 23 stôn pan gafodd ei darganfod yn byw mewn amodau "anaddas i unrhyw anifail," yn ôl yr erlyniad. 

Mae ei thad, Alun Titford, 45, yn gwadu dynladdiad trwy esgeulustod difrifol.

Mae ei mam, Sarah Lloyd-Jones, 39, wedi pledio'n euog i ddynladdiad. 

Dydd Mawrth, fe wnaeth Llys y Goron Y Wyddgrug glywed gan yr entomolegydd fforensig, Dr Amoret Whitaker.

Dywedodd fod yr amodau yn ystafell Kaylea yn amgylchedd "delfrydol" i bryfed. 

Clywodd y llys fod Dr Whitaker wedi edrych ar luniau o ystafell a chorff Kaylea a rhai o'r cynrhon gafodd eu darganfod fel rhan o archwiliad post-mortem. 

"Mae'r ffaith eu bod mor agos i'r corff ac wedi'u darganfod ar ei chroen yn fy arwain i feddwl eu bod yn bwyta ar ei chorff," meddai Dr Whitaker. 

"Dwi'n amcangyfrif eu bod yn bwyta'r corff ac yn byw yn y lliain gwely am o leiaf 48 awr." 

Ychwanegodd Dr Whitaker fod trapiau dal pryfed wedi'u cymryd o ystafell Kaylea gyda dros 50 o bryfed arnynt. 

Fe wnaeth y llys hefyd glywed gan y ceiropodydd clinigol, David Blake. Yn ôl Mr Blake, nid oedd ewinedd traed Kaylea wedi eu torri am hyd at 10 mis. 

Dywedodd fod y ferch ifanc hefyd wedi dioddef "briw cronig" ar ei sawdl. 

"Dwi wedi gweld nifer o broblemau ac wedi trin nifer o bobl mewn cyflyrau bregus, ond roedd y lluniau y rhai gwaethaf i mi eu gweld yn ystod fy ngyrfa." 

Mae Mr Titford yn gwadu dynladdiad trwy esgeulustod difrifol a chyhuddiad arall o achosi marwolaeth plentyn. 

Mae'r achos yn parhau. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.