Newyddion S4C

Annog defnydd o’r Gymraeg ar y cae pêl-droed

Annog defnydd o’r Gymraeg ar y cae pêl-droed

Mae Cymdeithas Pêl-droed Dinas Abertawe a Menter Iaith Abertawe yn cydweithio i gynnal sesiynau hyfforddi drwy’r Gymraeg.

Er bod cwymp ar draws Cymru yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg, Abertawe oedd yr unig sir yng Nghymru lle roedd cynnydd yn y cyfrifiad diwethaf.

Mae oddeutu 50 o blant a phobl ifanc yn mynd i'r sesiynau yn wythnosol. Ac mae’r trefnwyr yn ffyddiog bod annog defnydd o’r Gymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth yn ffactor wrth hybu’r iaith ymhlith pobl ifanc yr ardal .

“Mae'r ffigurau yn rhywbeth i groesawu ymhlith plant a phobl ifanc, ond dwi'n meddwl fod hi'n bwysig ein bod ni'n edrych ar y cyd-destun ehangach ac ein bod ni'n edrych ar y defnydd dyddiol o'r Gymraeg hefyd,” meddai Tomos Jones, Prif Swyddog Datblygu Menter Iaith Abertawe.

“Ma' gweithgareddau fel hyn yn annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destun gwahanol tu allan i'r ystafell ddosbarth.”

Image
pel-droed
Mae tua 50 o blant yn mynd i'r sesiynau.

Cafodd y prosiect ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2022, gan annog y plant i ddefnyddio'r Gymraeg mewn amgylchedd pêl droed.

Yn ogystal â chefnogi disgyblion cynradd, mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi myfyrwyr chweched dosbarth i arwain sesiynau hyfforddi Cymraeg.

“Dwi'n dod o deulu sydd ddim yn siarad Cymraeg felly ma'n Nghymraeg i yn sicr wedi gwella drwy gynnal y sesiynau yma,” eglura Aedan Cousins, sy'n ddisgybl yn y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Gwyr.

“Ma' nhw di datblygu sgiliau pêl-droed nhw ond hefyd y ffordd ma' nhw'n defnyddio'r iaith.

“Ma' llawer mwy yn dod ac yn siarad Cymraeg pan ma' nhw'n chwarae, sy'n dangos yr effaith ma'r sesiynau wedi cael.

“Fi'n siŵr os ma' 'nhw'n chware i glwb neu os di nhw byth wedi chwarae pêl-droed o'r blaen ma' nhw'n gallu dod a chwarae a defnyddio'r Gymraeg ychydig mwy na fydden nhw tu allan i'r ysgol.”

Yn dilyn llwyddiant y sesiynau mae nhw wedi eu henwebu am ‘Wobr y Gymuned' Mentrau Iaith Cymru eleni.

Cynnydd ymhlith yr ifanc yn Abertawe

Yn 2011, y ganran rhwng 3-19 oed yn Abertawe a oedd yn medru siarad Cymraeg oedd 21.3% - bellach mae wedi cynyddu i 22.1%.

Yn 2011, y ganran rhwng 3-19 oed ledled Cymru oedd yn medru siarad Cymraeg oedd 34.7% - bellach mae wedi gostwng i 30.9%.

Yn ôl Iwan Jones, sy’n hyfforddwr gyda Premier League Kicks Clwb Pel-droed Abertawe mae defnydd y tîm cenedlaethol o’r Gymraeg wedi dylanwadu ar blant yr ardal.

Image
Iwan Jones
Mae defnydd y Gymraeg gan dîm Cymru wedi cael dylanwad cadarnhaol, medd Iwan Jones.

“Mae’r defnydd o’r Gymraeg gan dîm Cymru yng nghwpan y byd wedi dechrau’r sgwrs.

“Ti’n i weld yn hyder y plant yn datblygu, yn dangos mwy o bersonoliaeth pan ma’ nhw'n dod yma, a mae'n braf i weld y plant yn siarad Cymraeg yn y sesiynau yma.”

Bydd enillydd y wobr yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd ar 26 Ionawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.